splosh a ddywedodd:Sut y mae cenhedlaeth sydd ddim yn bodoli yn cael ei hadnabod fel gwlad cyfreithiol ac annibynol tra fod Cymru fechan yn cael ei anghofio?
1. Fel dwi di trial esbonio'n gynharach, mae Kosova yn genedl sydd wedi byw yn yr ardal ers (o leiaf) canoedd o flynyddoedd. Dim mewnfudwyr o Albania ydyn nhw, ond pobol cynhenid y darn yna o dir. Maent wedi dioddef ac ymladd ddigon i haeddu unhryw adnabyddiaeth cyfreithiol maent wedi derbyn gan weddill y byd.
2. Hyd y gwela i, does neb wedi 'anghofio' Cymru. Ry'n ni'n genedl fach ddigon swnllyd, hyd y gwelai i. Ond os oeddem ni moyn anibyniaeth cymaint a ni, mi fyddwn ni'n mynnu ei gael. Wrth gwrs mae'r peiriant propoganda Brydeinaidd yn gwneud ei ore glas i'n perswadio ni i aros yn rhan o'r DU, ond hei, mi ddylai esiampl Kosova, os rywbeth fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i ni.