gan Prysor » Mer 20 Chw 2008 5:52 pm
Dwi'n meddwl ei fod o'n warthus fod pobl yn gallu symud i mewn i ran o wlad arall, cynyddu i fwyafrif, yna datgan annibyniaeth. Ac yn waeth fyth, y BBC yn riportio'r peth fel ffaith - "A new nation is born!" - cyn i unrhyw wlad arall gydnabod y statws newydd hyd yn oed. Feddyliodd neb am ofyn i'r Serbiaid sut oeddynt yn teimlo am roi talp o'u gwlad i ffwrdd!
Sut fysa ni'n licio, petai Cymru'n wlad sofran, a Saeson dwyrain Powys, Mynwy neu Fflint yn datgan annibynniaeth fory?
Be fysa Lloegr yn wneud petai Swydd Efrog wedi ei gwladychu gan Ddaniaid, ac yn datgan eu hannibyniaeth fory?
Be os fyswn i a chriw o ffrindia o Trawsfynydd yn datgan fory, fod Traws o hyn allan yn annibynnol? (ok, sili braidd...ond wedyn...)
Beth petai ni'r Cymry yn datgan annibyniaeth fory?
Fysa'r BBC yn riportio'r pethau hyn fel 'cenedl newydd wedi ei geni'? Fysa llywodraethau Prydain, America, Ffrainc a'r Almaen yn cydnabod ein statws?
Bolycs llwyr ydi'r busnas yma o fewnfudwyr yn dod i fwyafrif mewn rhyw ddarn o dir, felly â hawl i annibyniaeth! Gweler 6 sir gogledd Iwerddon yn mynnu torri i ffwrdd o Iwerddon, ac aros yn Brydeinig, yn 1921. Mae o'n rong.
OK - gellir dadlau fod yr hyn gyflawnwyd yn erbyn y Kosoviaid dan law Milosevic wedi rhoi mandad moesol iddyn nhw dorri'n rhydd. Ond mae o'n dal yn rong ac anghyfreithlon. Nid eu gwlad nhw ydio. Ac o be rwy'n deall, eu galwadau am annibyniaeth ddechreuodd yr holl helynt - gan roi esgus i'r bwystfil idiotic Milosevic ddileu'r cytundeb cyfansoddiadol oedd yn rhoi grym datganoledig iddyn nhw. Sori de, ond os fysa Saeson Abersoch isio annibyniaeth o Gymru, fyswn i'n deud wrthyn nhw am ffwcio'i nôl i Loegar. (aeth Milosevic yn rhy bell, dwi'n gwbod, a dyna di'r drwg)
Mae hyn jesd yn fwy o Serb-bashing gan yr Yanks a'r EU. Mae'r Yanks yn erbyn Serbia oherwydd mai'r Rwsiaid yw eu ffrindia nhw, a mae'r EU jysd isio ecspandio ei thiriogaeth economaidd cyfalafol i farchnad untapped y wlad, ac yn trio bwlio Serbia i gydymffurfio i 'safonnau'r' gorllewin. A mae'r Iancs a'r EU isio ymestyn eu dylanwad militaraidd a corfforaethol yn y Balkans, a Serbia ydi'r unig wlad sy'n sefyll rhyngddynt a hynny.
If you can't beat them, tear their country into pieces and share it out.
Pob parch i'r Kosofiaid am eu safiad yn erbyn gormes Milosevic.
Ond ffwcio nhw a'u annibyniaeth. Mae Kosofo'n rhan o Serbia.