gan Prysor » Iau 21 Chw 2008 12:40 pm
Ia, ffer inyff, Crochenydd. Ond dwi wedi cydnabod y pwynt fod yr erledigaeth mae nhw wedi ei ddioddef yn achos i ddadlau fod ganddynt fandad moesol i dorri'n rhydd. Mae fy nghymhariaeth efo Saeson Pen Llŷn yn gadael hynny allan o'r equation, wrth wneud pwynt uniongyrchol gwahanol - sef mai rhan o famwlad y Serbiaid ers canrifoedd, ydi Kosovo, a mai mewnfudwyr Albanaidd yno yw'r Kosofiaid... a bod agenda wahanol a hypocritiaeth tu ôl i sêl bendith y llywodraethau hynny sy'n rhoi sêl bendith i'r datblygiad yma.
Os oedd yr Albaniaid yng Nghosofo gyntaf o gwbl, mae hynny'n gorfod bod dros fil o flynyddoedd yn ôl. Sydd yn gyfystyr a Chymru annibynol yn gwladychu Swydd Henffordd, Caerloyw, Caer a Shropshire ac yn datgan annibyniaeth i'r ardal ar y sail mai Cymraeg oedd yr ardal yn y mileniwm cyntaf ôl Crist. Fyddai hynny ddim yn cael ei dderbyn gan unrhyw lywodraeth, heb son am Loegr.
Tydi faint mor hawddgar yw'r bobl ddim yn gymhwyster i anwybyddu cyfraith rhyngwladol. Dwinna wedi bod i Serbia (dim ond i Belgrad, rhaid cydnabod), ac wedi cael y Serbiaid yn bobl hawddgar, dygn, sydd wedi cael bum deal gan ormeswyr ers canrifoedd (mae craters y cruise missiles yn dal yn yr adeiladau, a mae'r ddinas wedi ei chwalu i'r llawr ugeiniau o weithiau, ac wedi ei hail-godi). Y Serbiaid oedd y last line of defence yn erbyn yr Ymerodraeth Ottoman a'r Natsiaid. Mae nhw wedi aberthu a dioddef cymaint dros y canrifoedd, dim ond i gael eu sathru gan y Gorllewin.
Oes, mae na feddylfryd caled a macho yn y gwledydd Slafaidd, a mae'r Serbiaid - fel y gweddill - yn credu mewn llygad-am-lygad. Pwy all eu beio, wedi canrifoedd o gwffio dros eu goroesiad? Lleiafrif bach iawn sy'n cefnogi ethnic cleansing, ond o ran y ffieidd-dra oedd yn digwydd yn rhyfel y Balkans (dan law bwystfilod Milosevic, nid ar ran y genedl Serbaidd, mewn gwirionedd), eu safbwynt yw mai'r Croatiaid (ffrindiau'r gorllewin, a'r Natsiaid gynt, gyda llaw) ddechreuodd eu lladd nhw.
Athroniaeth dywyll, a dychrynllyd o symlistic. Ond tria di resymu am foeseg hynny, eu hateb yw, "tro'r foch arall yn y Balkans, a gei di dy ladd, geith dy deulu eu lladd, a geith dy bentref ei losgi". Mae'n anodd i ni Orllewinwyr amgyffred y peth, ond mae'n anoddach fyth i ddadlau yn erbyn eu pwynt yn wyneb y fath realiti.
Ond yn ôl at Kosofo. Efallai fod lle i ddadlau, fel dwedais, fod y gormes yn gymhwyster dros y Kosofiaid i dorri'n rhydd. Ond tydio ddim yn gyfreithlon, a dio'n newid dim ar y ffaith fod hyn yn cael ei ganiatau gan y Gorllewin oherwydd agenda amgen, gwrth-Serbaidd. A dio'n newid dim ar y ffaith - a'r pwynt dwi'n danlinellu - mai rhan o Serbia yw Kosofo. A rhan canolog yn eu hunaniaeth hefyd (fel Eryri i'r Cymry, a'r Black Hills i'r Sioux).
Mae Milosevic wedi mynd. Mae Serbia - tra'n dal yn driw i'w threftadaeth - wedi gollwng gafael ar wladwriaeth Tito, ac wedi gollwng gafael ar diroedd y cenhedloedd Balkanaidd eraill oedd yn rhan o'r wladwriaeth honno. Mae gadael i Kosofo fynd yn gam rhy bell - yn rhwbio trwynau'r Serbiaid yn y baw.
Mae o hefyd yn gam peryglus o ran sefydlogrwydd Ewrop. Sbiwch be ddigwyddodd yn yr Almaen rhwng y ddau Ryfel Byd. Cadwa wlad yn y baw yn rhy hir, ac un dydd fe godith rhywbeth budr ei ben a dechrau brathu pawb a phopeth.