S.W. a ddywedodd:Chickenfoot a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Prysor, mae'n debyg fod mwyafrif y boblogaeth frodorol yng Nghwebec - y 'netif Americyns' ddim am weld Quebec yn tori i ffwrdd o weddill Canada.
Mae'r term "Native Americans" yn un mor redundant ac "American Indian" rwan. Mae'r Amercianaid sydd wedi geni yno'n native, 'swn i'n feddwl. Dw i'n gwybod hynna oddiar pwynt y trafodaeth, ond mae'r labeli mae pobl yn defnyddio i ddisgrifio eraill yn ddiddorol i mi.
Dio'm yn redundant o gwbl Mae 'Red Indian' yn redundant, ond os ei di i America neu Ganada weli di bod mwy a mwy o bwyslaid yn cael ei rhoi bellach ar sicrhau bodolaeth 'Indian Settlements' yn y ddwy wlad, yn enwedig yng Nghanada ble mae'r llywodraeth ffederal bellach yn talu rhywfath o 'ground rent' i'r llwythi brodorol ar gyfer bod yno, rhywfath o iawndal ydy o am wn i. Os rhywbeth mae'n llai redundant nag ydy o ers sefydlu Canada a'r Unol Daleithiau.
Digon teg. O'n i jest wedi codi'r pwynt ar ol darllen blog gwleidyddol/rantings gwallgof ar y we, a'r unig pwynt o'n i'n cyntuno hefo oedd fod native yn feddwl rywun sydd wedi geni yn yr wlad, felly efalla basa term arall yn fwy addas ar gyfer yr Americaniaid Brodorol.