Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan yavannadil » Sul 17 Chw 2008 9:42 pm

Kosovo?! Delwedd
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Y Crochenydd » Maw 19 Chw 2008 6:08 pm

Delwedd

Dyma ni!
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan yavannadil » Mer 20 Chw 2008 6:22 am

Ond wrth gwrth, mae Kosovo yn arbennig iawn ;)
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Positif80 » Mer 20 Chw 2008 9:24 am

Beth am y rhai sydd isio aros fel rhan o Serbia? Dydi o ddim yn amser wych iddyn nhw. :|
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Y Crochenydd » Mer 20 Chw 2008 10:18 am

Positif80 a ddywedodd:Beth am y rhai sydd isio aros fel rhan o Serbia? Dydi o ddim yn amser wych iddyn nhw. :|


Nagyw, ond dyna fel y mae. Mae 90% o'r boblogaith yn Kosova yn Albaniaid ac wedi cael eu trin yn ofnadwy gan y llywodraeth yn Belgrade ers degawdau. Yn ystod y rhyfel yn y 90au, fe ddaeth y polisi o 'ethnic cleansing' i'r rhanbarth pan geisiodd fyddin Milosovic a'i griw o farbariaid glirio'r ardal o Albaniaid ac fe laddon nhw miloedd ar filoedd. Ni ddaethpwyd o hyd i gyrff pawb ac mae miloedd yn dal ar goll.

Yn naturiol, mae yna deimlad drwg tuag at y Serbiaid yn dal i fod, ond mae'r rhan fwyaf o'r Albaniaid dwi'n nabod (dwi wedi treulio ychydig o fisoedd yn rhwng 2004 - 06) eisiau rhoi'r gorffenol heibio a byw'n heddychlon fel Ewropeaid gwaraidd. Mae'r Serbiaid ar y llaw arall yn glynu at mymbo jymbo fel 'crefydd' a 'tiroedd traddodiadol' er mwyn ceisio esgusodi erlid y mwyafrif (yn yr ardal fechan yna) ac ymddwyn fel bwlis ffasgaidd. Get used to it!

Pob lwc Kosova a hir oes.
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Positif80 » Mer 20 Chw 2008 11:24 am

O wel, digon teg felly. Os oedd yr Albaniaid yna'n gyntaf as bod y mwyafrif wedi mynnu annibyniaeth, mae o i gyd yn gravy. :D
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan yavannadil » Mer 20 Chw 2008 11:32 am

Y Crochenydd a ddywedodd: mymbo jymbo fel 'crefydd' a 'tiroedd traddodiadol'

crefydd, tiroedd... iaith? ;)
'Kosovo je Srbia' wrth gwrth :) ond dw i'n meddwl fy mod i'n deall a chroesawu safbwynt Undeb Ewropaidd: gadewch y Serbiad byw mewn un gwlad, ac yr Albaniad mewn gwlad arall, ond pawb mewn Undeb Ewropaidd. Ond beth ydyn nhw ei feddwl am Fasgiad, er enghraifft?
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Positif80 » Mer 20 Chw 2008 11:48 am

Y Crochenydd a ddywedodd:Get used to it! [/i]


Dw i'm yn poeni gymaint a hynna amdanyn nhw! Dw i jest yn hapus fod rywbeth ar y newyddion heblaw am Northern blydi Rock a'r whingers sydd wedi colli pres.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Nanog » Mer 20 Chw 2008 5:45 pm

Positif80 a ddywedodd:O wel, digon teg felly. Os oedd yr Albaniaid yna'n gyntaf as bod y mwyafrif wedi mynnu annibyniaeth, mae o i gyd yn gravy. :D


Oedden nhw yna'n gyntaf fel wyt ti'n dweud. Dwi ddim yn gwybod llawer am y sefyllfa ond dwi'n meddwl taw symud 'na wnaeth yr Albaniaid o ....wel Albania. Pwy sy'n gallu bwrw goleuni ar hyn?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Prysor » Mer 20 Chw 2008 5:52 pm

Dwi'n meddwl ei fod o'n warthus fod pobl yn gallu symud i mewn i ran o wlad arall, cynyddu i fwyafrif, yna datgan annibyniaeth. Ac yn waeth fyth, y BBC yn riportio'r peth fel ffaith - "A new nation is born!" - cyn i unrhyw wlad arall gydnabod y statws newydd hyd yn oed. Feddyliodd neb am ofyn i'r Serbiaid sut oeddynt yn teimlo am roi talp o'u gwlad i ffwrdd!

Sut fysa ni'n licio, petai Cymru'n wlad sofran, a Saeson dwyrain Powys, Mynwy neu Fflint yn datgan annibynniaeth fory?

Be fysa Lloegr yn wneud petai Swydd Efrog wedi ei gwladychu gan Ddaniaid, ac yn datgan eu hannibyniaeth fory?

Be os fyswn i a chriw o ffrindia o Trawsfynydd yn datgan fory, fod Traws o hyn allan yn annibynnol? (ok, sili braidd...ond wedyn...)

Beth petai ni'r Cymry yn datgan annibyniaeth fory?

Fysa'r BBC yn riportio'r pethau hyn fel 'cenedl newydd wedi ei geni'? Fysa llywodraethau Prydain, America, Ffrainc a'r Almaen yn cydnabod ein statws?

Bolycs llwyr ydi'r busnas yma o fewnfudwyr yn dod i fwyafrif mewn rhyw ddarn o dir, felly â hawl i annibyniaeth! Gweler 6 sir gogledd Iwerddon yn mynnu torri i ffwrdd o Iwerddon, ac aros yn Brydeinig, yn 1921. Mae o'n rong.

OK - gellir dadlau fod yr hyn gyflawnwyd yn erbyn y Kosoviaid dan law Milosevic wedi rhoi mandad moesol iddyn nhw dorri'n rhydd. Ond mae o'n dal yn rong ac anghyfreithlon. Nid eu gwlad nhw ydio. Ac o be rwy'n deall, eu galwadau am annibyniaeth ddechreuodd yr holl helynt - gan roi esgus i'r bwystfil idiotic Milosevic ddileu'r cytundeb cyfansoddiadol oedd yn rhoi grym datganoledig iddyn nhw. Sori de, ond os fysa Saeson Abersoch isio annibyniaeth o Gymru, fyswn i'n deud wrthyn nhw am ffwcio'i nôl i Loegar. (aeth Milosevic yn rhy bell, dwi'n gwbod, a dyna di'r drwg)

Mae hyn jesd yn fwy o Serb-bashing gan yr Yanks a'r EU. Mae'r Yanks yn erbyn Serbia oherwydd mai'r Rwsiaid yw eu ffrindia nhw, a mae'r EU jysd isio ecspandio ei thiriogaeth economaidd cyfalafol i farchnad untapped y wlad, ac yn trio bwlio Serbia i gydymffurfio i 'safonnau'r' gorllewin. A mae'r Iancs a'r EU isio ymestyn eu dylanwad militaraidd a corfforaethol yn y Balkans, a Serbia ydi'r unig wlad sy'n sefyll rhyngddynt a hynny.

If you can't beat them, tear their country into pieces and share it out.

Pob parch i'r Kosofiaid am eu safiad yn erbyn gormes Milosevic.

Ond ffwcio nhw a'u annibyniaeth. Mae Kosofo'n rhan o Serbia.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron