Tudalen 1 o 3
Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Sad 15 Maw 2008 7:50 am
gan Llywelyn Foel
Yn 1950 ymosododd Tsieina ar Tibet; lladdwyd 17% o'i thrigolion yn y broses o geisio coloneiddio'r wlad ers hynny.
Bu cryn dipyn o brotestio gan y mynachod a Thibetiaid eraill yn ddiweddar, ond ychydig yw'r lleisiau sy'n codi yn erbyn Tsieina o weddill y byd, gan gynnwys Cymru.
Oni fyddai boicotio'r Olympics yn brotest effeithiol gennym ni yng Nghymru? Neu a oes na ddulliau amgenach o gefnogi pobol Tibet?
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Sad 15 Maw 2008 3:03 pm
gan Chip
yn dwi yn cytuno a be ti'n dweud ond a gewn ni effaith o gwbwl. am fod cymru fel gwlad ddim yn cystadlu yn yr olympics, pwy fydd yn cyhoeddu nad yw cymru yn cymrud rhan, os byddai unryw boicot, gan athletwyr cymru byddai yn dod o a fel penderfynniadau unigol yr athletwyr byddai hyny, a byddai hyny ddim yn poblogaidd iawn i nhw wedi iddynt hyfforddi amdano am blynyddoedd.
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Sad 15 Maw 2008 9:08 pm
gan Chickenfoot
Dw i'm yn gwybod pam bod y Dalai Lama yn gymaint o arwr 'chwaith.
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Sul 16 Maw 2008 2:09 am
gan Mali
Chickenfoot a ddywedodd:Dw i'm yn gwybod pam bod y Dalai Lama yn gymaint o arwr 'chwaith.
Gweler.
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Sul 16 Maw 2008 4:44 am
gan Chickenfoot
Ond roedd y Lamas yr un mor crap o arweinwyr a'r China, gan redeg system ffiwdal. Be' fasa'n digwydd pe tasa'r Dalai Lama yn cael grym? Dw i ddim o blaid China 'chwaith, ond dw i'm amheus iawn o bobl fel y Dalai Lama.
http://www.greenleft.org.au/1996/248/13397
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Sul 16 Maw 2008 10:39 pm
gan Mali
Pam wyt ti'n amheus o'r Dalai Lama?
Yn gweld o'r
erthygl yma fod pethau'n gwaethygu yn Tibet.
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Sul 16 Maw 2008 11:55 pm
gan Llywelyn Foel
Ia, o ail feddwl, efallai fod y drefn gomiwnyddol o dan y goresgynwyr yn llawer gwell na Tibet ddemocrataidd ar ddull a phatrwm y gorllewin; democratiaeth sy'n cofleidio: pornograffi, cyffuriau, addoli pethau materol, diwylliant maffiaidd tanddaearol, trais ayb ayb.
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Llun 17 Maw 2008 3:42 pm
gan Chickenfoot
Mali a ddywedodd:Pam wyt ti'n amheus o'r Dalai Lama?
Yn gweld o'r
erthygl yma fod pethau'n gwaethygu yn Tibet.
Oherwydd fod y dyn yn cael ei addoli, yn gyntaf.
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Llun 17 Maw 2008 11:22 pm
gan Llywelyn Foel
Yn hollol, Chickenfoot: dyn yn ei addoli ei hun. Ar ei liniau... o flaen y drych.
Ac yn addoli arian. Ond fe ddaw newid; mae na ddyddiau duon iawn o flaen america a'i lo aur. 'Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr...'
Ac oherwydd hyn, mae'n rhaid i ni chwilio am ryw fath o gomiwnyddiaeth nad yw'r byd hyd yma wedi ei brofi.
Ond yn y cyfamser mi fydd llawer o Dibetiaid diniwed yn cael eu lladd, a ninnau'n gwneud ffyc-ol mod derbyn totalitariaeth y ddau begwn: tsieina ac America. Mae'r ddau'n addoli eu hunain.
A'r unig brotest sydd gennym yma yng Nghymru yw cryfhau ein arwahanrwydd - yn brotest rhag y Bwlis Mawr, yr unffurfiaeth llwyd.
Re: Cefnogi pobol Tibet yn ymarferol
Postiwyd:
Maw 08 Ebr 2008 12:18 pm
gan LLewMawr
sdim lot alle ni wneud i helpu Tibet. mae protestio yn ymgyrch symbolaidd.
Tseina yw gwlad fwyaf y byd, gyda'r byddin mwyaf, y milisia mwyaf a'r awyrlu mwyaf. Yn economaidd maent yn fwy rymus na Prydain.
Mae Tseina wedi agor Tibet i fyny- yn yr un fath wnaeth ~Lloegr wneud I Gymru.
y canlyniad- miliynau o Tseineaid yn mudo i Dibet, deddfau gwrth iaith Tibet, trigolion Tibetaidd yn cael ei drin fel pobl ail-ddosbarth ac yn ogystal ag hyn mae llawer ohonynt nawr yn gallu siarad Mandarin rhugl ond dim ond Tibeteg sylfaenol. mae baneri Tseineaidd i weld ym mhobman ac mae gan strydoedd enwau fel Beijing road ayb.
os pe bai Tseina yn gadael refferendwm ar annibyniaeth i Tibet bydd Tibet yn dweud na, oherwydd maint y niferoedd o Tseina.