Dyma fi'n edrych ar y we am bethe am Batagonia. Mae'n ymddangos bod Trelew (sef un o'r trefi gyda'r mwya o gysylltiadau Cymraeg) yn adnabyddus ymhlith pobl yr Ariannin am gyflafan a digwyddodd ym 1972. Mae cryn son ar wefanau (Sbaeneg eu hiaith) am "Masacre de Trelew" (Gyflafan Trelew) a "Trelew la ciudad de la furia" (Trelew - tref y Ffyrnigrwydd)
Yn Awst 1972 ceisiodd nifer garcharion gwleidyddol asgell chwith dianc o garchar cyfagos. Cawsont eu dal yn y maes awyr, wrth iddynt drio heriogipio awyren. Yn fuan ar ol hynny wnaeth y fyddin eu saethu heb achos llys a cheisodd y fyddin atal newyddion am y llofruddiaethau. Roedd eu saethu'n rhan o'r cychwyn o gyfnod ofnadwy o ormes milwrol yn yr Ariannin trwy'r 70au pryd cafodd miloedd eu "diflannu" ar orchymyn y llywodraeth asgell-dde eithafol.
Mae'r llun yn dangos adeg yr angladdau
Er imi glywed lot fawr am Batagonia o safbwynt cysylltiadau Cymraeg, o beth allai weld does dim llawer o son am unrhyw cefndir ehangach am wleidyddiaeth neu digwyddiadau yng nghydestyn ehangach problemau yr Ariannin a De America. Ydy 'Cyflafan Trelew' wedi cael sylw yng Nghymru o'r blaen?
Dyma hysbys am y ffilm dogfen "Trelew" gydag is-deitlau Saesneg ..
Dyma gwefan y ffilm dogfen "Trelew" http://www.filmtrelew.com.ar/eng/index.htm (yn Saesneg a Sbaeneg)
Wikipedia: http://es.wikipedia.org/wiki/Masacre_de_Trelew (yn Sbaeneg)
--