Ffilm am Gyflafan ym Patagonia

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffilm am Gyflafan ym Patagonia

Postiogan HuwJones » Sad 05 Ebr 2008 11:21 am

Dyma fi'n edrych ar y we am bethe am Batagonia. Mae'n ymddangos bod Trelew (sef un o'r trefi gyda'r mwya o gysylltiadau Cymraeg) yn adnabyddus ymhlith pobl yr Ariannin am gyflafan a digwyddodd ym 1972. Mae cryn son ar wefanau (Sbaeneg eu hiaith) am "Masacre de Trelew" (Gyflafan Trelew) a "Trelew la ciudad de la furia" (Trelew - tref y Ffyrnigrwydd)

Yn Awst 1972 ceisiodd nifer garcharion gwleidyddol asgell chwith dianc o garchar cyfagos. Cawsont eu dal yn y maes awyr, wrth iddynt drio heriogipio awyren. Yn fuan ar ol hynny wnaeth y fyddin eu saethu heb achos llys a cheisodd y fyddin atal newyddion am y llofruddiaethau. Roedd eu saethu'n rhan o'r cychwyn o gyfnod ofnadwy o ormes milwrol yn yr Ariannin trwy'r 70au pryd cafodd miloedd eu "diflannu" ar orchymyn y llywodraeth asgell-dde eithafol.

Delwedd
Mae'r llun yn dangos adeg yr angladdau

Er imi glywed lot fawr am Batagonia o safbwynt cysylltiadau Cymraeg, o beth allai weld does dim llawer o son am unrhyw cefndir ehangach am wleidyddiaeth neu digwyddiadau yng nghydestyn ehangach problemau yr Ariannin a De America. Ydy 'Cyflafan Trelew' wedi cael sylw yng Nghymru o'r blaen?

Dyma hysbys am y ffilm dogfen "Trelew" gydag is-deitlau Saesneg ..

Dyma gwefan y ffilm dogfen "Trelew" http://www.filmtrelew.com.ar/eng/index.htm (yn Saesneg a Sbaeneg)
Wikipedia: http://es.wikipedia.org/wiki/Masacre_de_Trelew (yn Sbaeneg)
--
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffilm am Gyflafan ym Patagonia

Postiogan Prysor » Mer 16 Ebr 2008 3:32 pm

Mae'r hanes yn gyfarwydd i fi. Ond trwy gwpwl o raglenni dogfen welis i rywbryd, nid trwy unrhyw hanes am Batagonia'r Cymry. Er, mae gen i go iddo gael ei grybwyll mewn cysylltiad â hanes y Cymry hefyd, rhywbryd, bell yn ol, ond allai'm bod yn bendant.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Ffilm am Gyflafan ym Patagonia

Postiogan rufus » Gwe 26 Medi 2008 8:44 am

Bu cyfres o erthyglau a gyhoeddwyn yn yr Herald Cymraeg ar ddechrau'r 90'au yn tynnu sylw at hyn - cafwyd cyfweliadau hefo trigolion Trelew oedd yn cofio'r digwyddiadau a chyfeiriadau ato mewn cyfres o rhyw ddwsin o erthyglau am y Wladfa - os ydi hyna o help
"Cymraeg ydio Bruce, ond nid fel 'da ni yn ei adnabod o..."
rufus
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Iau 25 Medi 2008 9:47 am

Re: Ffilm am Gyflafan ym Patagonia

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 26 Medi 2008 5:38 pm

Am ddiddorol. Mi raid i mi ddarllen mwy am hyn dwi'n credu. Rydym yn cael gormod o'r 'Cefn Gwlad' fersiwn o Patagonia dwi'n credu.

Felly mae'n eithaf diddorol gweld yr ochr llawer mwy 'tywyll' o'r ardal.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron