Etholiad Rhodesia

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Etholiad Rhodesia

Postiogan finch* » Llun 14 Ebr 2008 1:32 am

Newydd ailddarllen erthygl ar y BBC am yr etholiad yn Zimbabwe ac yn meddwl beth yw eich ymateb chi i'r sefyllfa. Yw'r etholiad mopr agos a hynny neu ai jest stallo ma'r llywodraeth er mwyn gallu hawlio buddugoliaeth yn yr ailgyfri. Yn bersonol, dwi'n credu fod unai ma'r wrthblaid wedi ennill, neu ma'r wrthblaid yn agos uffernol a Mugabe wdi colli. Pam arall fydde Mugabe heb gyhoeddi'r canlyniad ledled y byd? Dwi'n sylweddoli allyth neb ddweud yn iawn ond beth yw'r consensws cyffredinol?

dyma'r erthygl http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/africa/7345097.stm

(sori. sai'n cofio sut i ymgorffori gwefan i'r testun yn iawn)
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: Etholiad Rhodesia

Postiogan 7ennyn » Llun 14 Ebr 2008 6:41 pm

Mae'n rhaid bod y canlyniad yn agos ar y diawl - ond dwi ddim yn meddwl bod Mugabe yn trio ennill amser er mwyn rigio'r peth. Mae ail-gyfrif mewn seddi agos yn rhywbeth sydd yn digwydd ym mhob gwlad sydd yn cynnal etholiadau rhydd - ond yn ol cyfansoddiad Zimbabwe, mae'n rhaid gofyn i'r Uchel Lys am yr hawl i fynnu ail-gyfrif. Dyna pam ei bod yn cymeryd mor hir.

Tydi'r BBC ddim y ffynhonell mwyaf cytbwys a dibynadwy o newyddion am Zimbabwe. Yn ol y BBC mae Morgan Tsvangirai a'r MDC yn wynach na gwyn (dim pun :ofn: ) tra bod Mugabe a ZANU-PF yn fwy dieflig na Satan (sori Satan!). Does gan ZANU-PF ddim monopoli ar drais a bygwth - yn anffodus mae'n rhywbeth sydd yn endemig i bob ochr. Does yna ddim amheuaeth bod Robert Mugabe wedi gwneud llanast llwyr o'i wlad - mae hyd yn oed cefnogwyr mwyaf selog ZANU isio iddo roi'r ffidil yn y to. Ond nid Mugabe ydi ZANU-PF. Mae gan ZANU yr un gwreiddiau a'r ANC yn Ne Affrica. Ond nid Mandela ydi Mugabe a wnaeth ZANU erioed uno'r wlad yn yr un modd y llwyddodd yr ANC ei gyflawni yn Ne Affrica.

Dwi'n cymeryd bod dy dafod yn dy foch wrth gyfeirio at y wlad fel Rhodesia, finch*? :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron