gan gruffudd » Gwe 09 Mai 2008 12:21 am
wniaff mugabe ddim sefyll lawr. tra bod thabo mbeki yn parhau i wneud fawr o ddim (neu tan bod america'n meddwl bod na uffar o ffynhonell olew yno), mae zimbabwe'n eiddo i mugabe.
yn ol son, mae'r wasg ym mhrydain ac america wedi cam arwain pobol ynglyn a hygrededd MDC. er bod tvingirai ei hun yn ddyn 'da', mae na sectorau o'r blaid sydd mor (os nad yn fwy) treisgar a'r zanu-pf, ac mae ei cynlluniau nhw ar gyfer ail adeiladu economi y wlad yn hollol ddibynnol ar america.
os ydi'r mdc yn gwrthod rhedeg eto, dwi'n rhagweld mugabe yn hawlio rhyw fath o fuddigoliaeth 'by default'. a toes na neb isho hynna.
ydi gelynion maes-e yn elynion yn y byd go iawn?