Mi ddechreuais drafodaeth ar y wefan ar ei hen wedd o dan y teitl yma, ond alla' i moi'i gweld hi nawr,felly dyma ailgychwyn pethau.
Os ydych chi am gael golwg wahanol ar hanes ein brawd mawr dros y dŵr, mae'n werth mynd am lyfr Howard Zinn, A People's History of the United States. Dyw'r arddull ddim yn llyfn iawn, ond mae'n rhoi golwg ddiddorol dros ben ar hanes hynod dreisgar y wlad – trais yn erbyn y cyn-frodorion, yn erbyn gwledydd cyfagos a phell, ac yn erbyn dinasyddion y wlad ei hunan.
Mae llyfr yn arbennig o werthfawr yng nghyd-destun yr holl frolio ar Barack Obama ar hyn o bryd, gan fod Zinn yn dangos yn ddigon eglur fel y mae delfrydwyr honedig y Blaid Ddemocrataidd - Kennedy, Carter ac ati - wedi bod yr un mor frwd â'r Gweriniaethwyr i hybu polisi tramor ymosodol er mwyn buddiannau'r cwmnïau mawrion.