Mae doctoriaid wedi llwyddo i wella'n gyfangwbl dyn efo cancr difrifol o'i groen, ac oedd wedi lledaenu i'r glandiau lymph ac i un ysgyfaint!
Gobaith mawr y ganrif
Cymedrolwr: Chwadan
Macsen a ddywedodd:Wel cawn ni weld, mae yna stori fel hyn yn ymddangos bob ychydig fisoedd os nad wythnosau. Dim ond un person yw hwn, a hyd yn oed pe bai o'n effeithiol yn y mwyafrif o achosion, fe fyddai'n cymryd ryw 20 mlynedd fel arfer i fynd o labordy i'r NHS.
Prysor a ddywedodd:Macsen a ddywedodd:Wel cawn ni weld, mae yna stori fel hyn yn ymddangos bob ychydig fisoedd os nad wythnosau. Dim ond un person yw hwn, a hyd yn oed pe bai o'n effeithiol yn y mwyafrif o achosion, fe fyddai'n cymryd ryw 20 mlynedd fel arfer i fynd o labordy i'r NHS.
da iawn, ti yn gallu darllan, felly?
fodd bynnag, be sy'n gneud hyn yn wahanol ydi mai dyma'r tro cynta i gancr gael ei ddifa - a'i ddifa'n llwyr - gan y broses newydd o clônio T-cells. Ymhellach, dyma'r tro cynta i'r fath gancr - ac un sydd wedi lledu drwy rannau eraill o'r corff - beidio ail-ymddangos (mae 2 flynedd wedi mynd heibio, a ni ddaeth y cancr yn ôl)
eat that, Negoman!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai