Primark a Llafur Plant

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Primark a Llafur Plant

Postiogan Cymro13 » Llun 23 Meh 2008 11:35 am

gweler

Dwi ddim yn mynd yn ol yna i siopa

Yn ol y sôn roedd y plant yn gweithio am gyn lleied a 50c y diwrnod
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan Jaff-Bach » Llun 23 Meh 2008 11:43 am

Mae gas genai fynd mewn i Primark pan dwi'n siopa efo'n ffrindia, mae'r math o lafur yn amlwg wrth edrych o gwmpas y siop efo rels o ddillas a arwyddion yn hysbysebu ffrogiau am £8, topiau am £2 a esgidiau am £4.

Ond ar yr un pryd rhaid ichdi gofio hefyd mai ddim jesd primark ydi'r unig siop ar y stryd fawr sy'n defnyddio llafur plant a sweatshops, mae siopau llawer drytach a labeli mawr chwaeron yn defnyddio y math yma o lafur a'r gyfer eu cynyrch.
Edrych ymlaen i weld y rhaglen, dyliai fod yn ddifyr.
'Ydi Myrddin ap Dafydd yn fab i Dafydd ap Gwilym?............'
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan cassius » Llun 23 Meh 2008 5:23 pm

Ma Primark yn gweud bo nhw wedi sacko'r cwmniau hyn mae'r wasg yn son am. Ond fel yn y byd all popeth fod mor rhad?????? Rhaid bod rwbeth underhand yn mynd mlan

No way na'r unig siop stryd fawr sy'n euog, nagodd "Gap" di cael honniad tebyg dim sbel yn ol? Ma'r cwmniau hyn mor MASSIVE, sdim llawer o obaith da ni wybod ble ma popeth ni'n prynnu yn dod o :/
cassius
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Mer 18 Meh 2008 7:46 pm
Lleoliad: Pontiets

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan Rhys » Llun 23 Meh 2008 6:27 pm

Yn sicr nid dyma' unig gwmni sy'n euog, er dylai unrhywun allu gweld bod gwerthu dilledyn am £2 yn golygu bod rhywun yn cael eu talu ychydig iawn am eu gwneud.

Mwy o wybodaeth ar Behind the Label
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan cassius » Llun 23 Meh 2008 9:02 pm

Newydd weld Panorama...a o'n nhw'n dangos plant yn India yn gwneud top Primark nes i brynnu. Gwarthus :x
cassius
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Mer 18 Meh 2008 7:46 pm
Lleoliad: Pontiets

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 24 Meh 2008 3:34 am

Cymro13 a ddywedodd:gweler
Dwi ddim yn mynd yn ol yna i siopa
Yn ol y sôn roedd y plant yn gweithio am gyn lleied a 50c y diwrnod

Dyna 50c y diwrnod na fydd ar gael i'r bobl sy'n gweithio acw o ganlyniad i dy foicot.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan ceribethlem » Maw 24 Meh 2008 7:32 am

Ydy Primark yn wahanol i gwmniau dillad arall? Ydy'r ffaith fod Primark yn gwerthu dillad am ychydig bunnoedd gan roi 50c i'r gweithwyr yr un mor wael a cwmni "designer" sy'n gwerthu dillad am ddegau (o leiaf) o bunnoedd gan roi ond 50c i'r gweithwyr?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan Cardi Bach » Maw 24 Meh 2008 9:08 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:
Cymro13 a ddywedodd:gweler
Dwi ddim yn mynd yn ol yna i siopa
Yn ol y sôn roedd y plant yn gweithio am gyn lleied a 50c y diwrnod

Dyna 50c y diwrnod na fydd ar gael i'r bobl sy'n gweithio acw o ganlyniad i dy foicot.


Am ryw reswm yn y gorllewin ma na obsesiwn gyda ni i geisio troi dadleuon am hawliau yn ddadl economiadd ermwyn cyfiawnhau ein safbwyntiau, fel petai mai dim ond economeg ag arian yr ydyn ni mewn gwirionedd yn ddigon.

Hwn yw gwendid dadl Panorama a'r Observer. Nid y ffaith fod y plant yn cael 50c y diwrnod am weithio yw'r drwg mewn gwirionedd, ond y ffaith mai PLANT ydyn nhw; eu bod nhw'n gorfod gweithio mewn amgylchiadau erchill; ac yn aml yn cael eu camdrin yn y broses - y cyfan ermwyn i ni gael nwyddau rhad.

Anghofwich am y pwynt 50c - mae hwnnw mewn gwirionedd yn amherthnasol. Dylid boicotio y cwmni nes eu bod nhw'n mynnu fod eu darparwyr yn rhoi safonau gwaith derbyniol iw gweithwyr, heb orfodi plant mewn i gaethiwed o'r fath.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan ceribethlem » Maw 24 Meh 2008 9:27 am

Cardi Bach a ddywedodd:Anghofwich am y pwynt 50c - mae hwnnw mewn gwirionedd yn amherthnasol. Dylid boicotio y cwmni nes eu bod nhw'n mynnu fod eu darparwyr yn rhoi safonau gwaith derbyniol iw gweithwyr, heb orfodi plant mewn i gaethiwed o'r fath.

Cytuno, ond nid Primark yw'r unig rai sy'n euog. Dylid gwneud ymdrech i brynu o gwmniau sy'n sicrhau amodau teg i'w gweithwyr, yn hytrach na boicotio un lle.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan Cardi Bach » Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Cardi Bach a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:
Cymro13 a ddywedodd:gweler
Dwi ddim yn mynd yn ol yna i siopa
Yn ol y sôn roedd y plant yn gweithio am gyn lleied a 50c y diwrnod

Dyna 50c y diwrnod na fydd ar gael i'r bobl sy'n gweithio acw o ganlyniad i dy foicot.


Am ryw reswm yn y gorllewin ma na obsesiwn gyda ni i geisio troi dadleuon am hawliau yn ddadl economiadd ermwyn cyfiawnhau ein safbwyntiau, fel petai mai dim ond economeg ag arian yr ydyn ni mewn gwirionedd yn ei ddeall.

Hwn yw gwendid dadl Panorama a'r Observer. Nid y ffaith fod y plant yn cael 50c y diwrnod am weithio yw'r drwg mewn gwirionedd, ond y ffaith mai PLANT ydyn nhw; eu bod nhw'n gorfod gweithio mewn amgylchiadau erchill; ac yn aml yn cael eu camdrin yn y broses - y cyfan ermwyn i ni gael nwyddau rhad.

Anghofwich am y pwynt 50c - mae hwnnw mewn gwirionedd yn amherthnasol. Dylid boicotio y cwmni nes eu bod nhw'n mynnu fod eu darparwyr yn rhoi safonau gwaith derbyniol iw gweithwyr, heb orfodi plant mewn i gaethiwed o'r fath.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai