Primark a Llafur Plant

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan johnkeynes » Maw 24 Meh 2008 11:00 am

Mae'r hyn syd yn digwydd da Primark yn warthus, a mae Ceribethlem yn iawn, faint o gwmniau eraill sydd yn neud y run peth?

Mae cael boycott yn un gyfiawn,ac mi fyddaf yn cefnogi boycott or fath ond ar y run pryd rhaid sylweddoli bod pobl tlawd ym Mhrydain yn mynd i siopau fel Primark, oherwydd am y rheswm bod y dillad yn siep. Iawn i cael boycott ac fe fydda i yn ei cefnogi OND rhaid sylweddoli y bydd gan rhai pobl ddim o'r dewis i boycotio am y rhesymau rwyf newydd rhoi.
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Primark a Llafur Plant

Postiogan Dwlwen » Maw 24 Meh 2008 12:27 pm

Mae Labour Behind the Label yn rhedeg ymgyrch i bwyso ar Primark i geisio newid y drefn gyda'u cyflenwyr anfoesegol, yn hytrach na jyst golchi dwylo o'r holl beth.
Ma son am boicot yn iawn - ond plis, byddwch yn siwr o sgwennu at Primark, neu pwybynnag, i ddweud pam, ac i ofyn iddyn nhw newid sut mae nhw'n dod o hyd i'w dillad...

Ma'r cwmni sy berchen Primark wedi ymuno â'r Ethical Trading Initative ers dipyn - felly ar bapur mae'n ymddangos eu bod nhw eisiau cymryd camau tuag at sicrhau cyflenwyr moesegol. Er fel ddangosodd y rhaglen Panorama, ar hyn o bryd, dy'n nhw ddim yn gwneud yn ddigon da...
Er gwybodaeth, dyw Arcadia, y cwmni sy' berchen Topshop, Topman, Dorothy Perkins, Burton, Miss Selfridge, Evans, Wallis, a mwy heb hyd yn oed ymuno â'r ETI. Ma ymgyrch Redress Fashion yn pwyso arnyn nhw i ddiwygio sut mae nhw'n cyflenwi eu cynnyrch, a galw arnyn nhw i sicrhau gwell amodau gwaith ar hyd y gadwyn gyflenwi.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron