A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 27 Awst 2008 9:04 pm

Dw i ddim yn gweld beth sy o'i le wrth gydnabod Abchasia fel gwlad annibynnol. Ydy Abchasia wedi bod yn rhan o Siorsia yn draddodiadol, e.e. cyn i Rwsia ddod yn y 19eg canrif ac ymgorffori popeth yno? Os na, pam ceisio cael Siorsia ac Abchasia ynghyd? De Osetia - wel, beth am Ogledd Osetia? Dyna enghraifft o ddwy wlad - Rwsia a Siorsia - yn ceisio rhannu gwlad fach rhyngddyn nhw. Ymddengys na wnaeth hynny'r tro'n iawn. Tybed nad oes dyfodol i Osetia o fewn y naill neu'r llall. Ar hyn o bryd mae'r De-Osetiaid yn hoff iawn o'r Rwsiaid - ond ydy'r un yn wir am y Gogledd-Osetiaid?

Yn lle barnu Rwsia am gydnabod annibynniaeth Abchasia a De Osetia, efallai dylai'r UE ac ati yn cydnabod annibynniaeth Gogledd Osetia. Peth gorau fyddai i wledydd y Caucasus yn ffurfio rhyw ffederasiwn - ond mae hyn yn anodd iawn pryd mae Siorsia'n ceisio cadw Abchasia ac ati dan orthrwm (ac nid Siorsia yw'r unig broblem yno).
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan LLewMawr » Iau 28 Awst 2008 5:41 pm

wel fe wnaeth y gorllewin cydnabod Kosovo, fe roedd Kosovo yn rhanbarth o Serbia lle daeth yr Albaniaid y grwp ethnig mwyafrifol ac felly wnaethant datgan annibyniaeth a dechreuodd rhyfel pan aeth byddin Serbia i fewn i ail-gipio y lle.

felly be sy'n anghywir am gydnabod Abkhazia a de Ossetia? mae nhw lot yn grwp ethnig sydd wedi byw yna am ganrifoedd, hefyd fe wnes i chydig o balu- ym 1990 pan roedd Siorsia yn y UGSS gorchmynodd y Sofiet Goruchaf i Siorsia rhoi refferendwm i ei weriniaethau mewnol os roeddynt eisiau mynd yn annibynol. dwedodd Siorsia na ar ol sicrhau annibyniaeth a dyna sut roedd rhyfel yn y 90au.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron