Dw i ddim yn gweld beth sy o'i le wrth gydnabod Abchasia fel gwlad annibynnol. Ydy Abchasia wedi bod yn rhan o Siorsia yn draddodiadol, e.e. cyn i Rwsia ddod yn y 19eg canrif ac ymgorffori popeth yno? Os na, pam ceisio cael Siorsia ac Abchasia ynghyd? De Osetia - wel, beth am Ogledd Osetia? Dyna enghraifft o ddwy wlad - Rwsia a Siorsia - yn ceisio rhannu gwlad fach rhyngddyn nhw. Ymddengys na wnaeth hynny'r tro'n iawn. Tybed nad oes dyfodol i Osetia o fewn y naill neu'r llall. Ar hyn o bryd mae'r De-Osetiaid yn hoff iawn o'r Rwsiaid - ond ydy'r un yn wir am y Gogledd-Osetiaid?
Yn lle barnu Rwsia am gydnabod annibynniaeth Abchasia a De Osetia, efallai dylai'r UE ac ati yn cydnabod annibynniaeth Gogledd Osetia. Peth gorau fyddai i wledydd y Caucasus yn ffurfio rhyw ffederasiwn - ond mae hyn yn anodd iawn pryd mae Siorsia'n ceisio cadw Abchasia ac ati dan orthrwm (ac nid Siorsia yw'r unig broblem yno).