A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Tshiffalaffs » Iau 14 Awst 2008 3:14 pm

Ble mae'r argyfwng yn y Caucusus yn gadael y berthynas rhwng yr Arth Mawr a'r Gorllewin?
Twp fel sledj.
Tshiffalaffs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 8:45 pm
Lleoliad: Brongwyn

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan yavannadil » Gwe 15 Awst 2008 7:09 am

Gyda llaw, does 'da fi, fel mab Rwsia, dim eisiau ynrhyw llysfrawd ;)
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan ap Dafydd » Gwe 15 Awst 2008 6:39 pm

Fel arfer, dyma Rwsia a'r Iancs yn chwarae gwleidyddiaeth gyda hawliau'r bobl.

Does neb yn galw am bleidlais pobl Abchasia a'r ddwy Ossetia am annibyniaeth.

Paham, tybed?
O Benryn wleth hyd Luch Reon
Cymru yn unfryd gerhyd Wrion
Gwret dy Cymry yghymeiri
ap Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sad 24 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Llansamlet

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Prysor » Mer 20 Awst 2008 9:11 am

Mae gan Rwsia bryderon dilys am fwriad NATO i dderbyn yr Wcrain a Georgia yn aelodau.

Ar un llaw, dydi o ddim byd o'u busnes nhw be mae'r gwledydd annibynol yma'n ei wneud, ac mae'n bryd i Rwsio sdopio ymyrryd yng ngwleidyddiaeth y ddwy wlad. Ond ar y llaw arall, mae NATO'n gyrru mlaen efo'r expansionism yma er eu bod yn gwybod ei fod yn bryfoclyd, ac yn fygythiad i heddwch.

Tydi'r Arth Mawr ddim yn licio cael ei drwyn wedi'i rwbio yn y baw. A dyna mae NATO'n ei wneud. Hegemoni NATO a'r EU sydd wrth wraidd ymddygiad diweddar Rwsia. Esgus i ddangos ei grym ydi'r busnes Ossetta etc.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: A fydd Siorsia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 20 Awst 2008 7:46 pm

Clywais unwaith fod yr hen UGSS wedi gofyn i NATO am aelodaeth, ond bod NATO wedi eu gwrthod. Efallai bydd y problem yn cael ei ddatrys wrth ymaelodi Rwsia o fewn NATO.

Am Siorsia, Osetia ac ymlaen, wel, mae Ap Dafydd yn llygad ei le wrth ddeud fod yr fel-petai UchafNerthau yn defnyddio'r boblogaeth leol hab ddim awgrym o'u helpu nhw. Mae fel petai'r Kurdiaid yn gwneud pethau'n anodd i lywodraeth Irac ac yna aeth rhyw UchafNerth i mewn a goresgyn Irac ar y pretext na.

Enwau eraill ar bobl Osetia - Alaniaid, Iron - ie, o ran iaith maen nhw'n agos iawn at yr Iraniaid. Ond o ran crefydd mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n Gristion.

Tybed faint o wahaniaeth sydd rhwng Mikheil Saakashvili a Josef Dugashvili?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Prysor » Maw 26 Awst 2008 10:34 pm

Rwsia'n cydnabod annibyniaeth y ddau ranbarth, ac yn siarad yn tyff.

Cheney - sy'n annog i'r UDA roi arfau i Georgia - yn mynd i Georgia ar ymweliad swyddogol wythnos nesaf.

Dwi'm yn Nostradamus, ond... let's get ready to rumble... :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 27 Awst 2008 7:55 am

Mae'n wirioneddol dangos pa mor rhagrithiol y mae cenhedloedd mawr y byd, dydi? Ar yr un llaw, mae gynnon ni NATO yn cefnogi Kosovo ac yn gwrthod cefnogi Abchasia a De Osetia, ac ar y llaw arall Rwsia yn cefnogi'r ddau ranbarth (cenedl? wn i ddim?) hynny a Kosovo ond yn gorthrymu Chechnya yn llym.

Mae'n drist iawn gweld bywydau'n cael eu dinistrio dros gêm wleidyddol gymhleth, ond dyna'r byd sydd ohono. Dydi "diddorol" ddim cweit yn disgrifio yn union beth fydd y cam nesaf.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Maelor » Mer 27 Awst 2008 9:50 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n wirioneddol dangos pa mor rhagrithiol y mae cenhedloedd mawr y byd, dydi? Ar yr un llaw, mae gynnon ni NATO yn cefnogi Kosovo ac yn gwrthod cefnogi Abchasia a De Osetia, ac ar y llaw arall Rwsia yn cefnogi'r ddau ranbarth (cenedl? wn i ddim?) hynny a Kosovo ond yn gorthrymu Chechnya yn llym.



Dydy Rwsia ddim yn cefnogi dyheadau Kosovo o gwbl. Tit for tat ar gan Rwsia di hyn yn dilyn cefnogaeth NATO o Kosovo. Yr unig ddiddordeb go iawn sydd gan Rwsia yn De Osetia a Abcasia ydy'i lleoliadau strategol - byddai'n cynyddu eu dylanwad mewn ardal ble maent wedi bod yn brysur colli dylanwad ers 1991.
Maelor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Maw 07 Meh 2005 1:38 pm
Lleoliad: Wrecsam

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 27 Awst 2008 10:25 am

Wrth gwrs ond i bob pwrpas mae'n cefnogi eu hannibynniaeth felly. Yr un ydi hi'n y pen draw.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: A fydd Georgia yn dychwelyd i fynwes Mam Rwsia?

Postiogan Maelor » Mer 27 Awst 2008 10:55 am

Dim o reidrwydd (di cysondeb ddim yn gryfder gyda Llywodraeth Rwsia mae'n debyg). Y disgwyl yw gyda De Osetia a Abcasia y byddant mewn tro yn uno a Rwsia. Dyna mae Rwsia am ei weld. Y cam cyntaf i sicrhau hyn yw eu gorfodi allan o ddwylo Georgia. Mae'r un awgrymiadau wedi eu gwneud gyda Kosovo a Albania, ond dwi'm yn siwr faint o ddiddordeb sydd gan Albania mewn derbyn Kosovo. Mae Rwsia, oherwydd ei hagosrwydd hiliol, diwyllianol a chrefyddol tuag at Serbia wedi gwrthwynebu annibyniaeth i Kosovo yn chwyrn ond yn barod iawn i gefnogi De Osetia a Abcasia oherwydd y mantais strategol bydd hyn yn ei olygu iddynt - safleoedd milwrol newydd ar y Môr Du ayyb.
Maelor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Maw 07 Meh 2005 1:38 pm
Lleoliad: Wrecsam

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron