Pigyn Olew

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pigyn Olew

Postiogan Nanog » Sad 23 Awst 2008 5:42 pm

Gwrandewch arni:



Ydy chi'n meddwl eu bod hi'n siarad synwyr neu oes 'na ddigon o olew am ddegawdau?

Ar nodyn mwy difrifol....ond yw hi'n gariad!?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Pigyn Olew

Postiogan Macsen » Sad 23 Awst 2008 6:13 pm

sori beth... doeddwn i'm yn talu sylw...
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pigyn Olew

Postiogan 7ennyn » Sad 23 Awst 2008 7:34 pm

Wel, me gen i bigyn golew rwan.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Pigyn Olew

Postiogan Macsen » Sad 23 Awst 2008 7:58 pm

Dyle Al Gore fod wedi trio'r tric yma yn ystod An Inconvenient Truth...
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pigyn Olew

Postiogan Prysor » Iau 28 Awst 2008 6:34 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Pigyn Olew

Postiogan Nanog » Iau 28 Awst 2008 7:58 pm



Diolch am ymateb. Fel dwi'n deall, mae 'na broblemau enfawr i gael olew alland o'r creigiau 'ma. Rhaid twymo'r graig i dymheredd uchel iawn.......

If you heat this shale to 700 degrees F you will turn this organic carbon (kerogen) into the nastiest, stinkiest, gooiest, pile of oil-like crap that you can imagine. Then if you send it through the gnarliest oil refinery on the planet you can make this s*** into transportation fuel. In the mean time you have created all kinds of nasty byproducts, have polluted the air and groundwater of wherever you have extracted it.


Mae angen llawer o egni felly er mwyn cael gafael ar yr olew heb son am y sgil effeithiau amgylcheddol.

Darllena hwn:

http://www.econbrowser.com/archives/200 ... retor.html

Mae nhw'n dweud fod posib cael Olew alland o'r tywod yng Nganada hefyd. Ond dwi wedi darllen fod rhaid defnyddio nwy yn y broses 'ma....sydd ddim yn rhad yn ogystal a'r dwr rhyfedda - sydd ei hun yn bring ac y bydd yn ol rhai yn "yr olew newydd".

Dwi winrioneddol o'r farn......y bydd ein ffordd o fyw yn newid yn y blynydde nesa 'ma.......o ganlyniad i'r prinder olew. I ni mor ddibynol arno. Dwi hefyd yn meddwl.....y dyle pobl baratoi am yr amser 'ma......ond nid yw hynny yn mynd i fod yn hawdd. :(
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Pigyn Olew

Postiogan Prysor » Iau 28 Awst 2008 9:01 pm

Nanog a ddywedodd:Dwi winrioneddol o'r farn......y bydd ein ffordd o fyw yn newid yn y blynydde nesa 'ma.......o ganlyniad i'r prinder olew. I ni mor ddibynol arno. Dwi hefyd yn meddwl.....y dyle pobl baratoi am yr amser 'ma......ond nid yw hynny yn mynd i fod yn hawdd. :(


Dwi'n rhannu dy besimistiaeth i raddau helaeth. Dwi'n cofio deud mewn edefyn am y ffilm <i>A Crude Awakening</i> fod gen i ffrind oedd yn dilyn gwefannau fel hon, ac yn paratoi ar gyfer y crash.

Wedyn mi yrrodd rhywun lincs i mi i safleoedd oedd yn son am y Shale Oil 'ma (roedd un am y mynyddoedd hynny yng Nghanada, os dwi'n cofio'n iawn), gan ddadlau ei fod yn achubiaeth. Roedd un safle wê yn son am dechneg newydd oedd yn gwneud y peth yn llawer mwy eco-gyfeillgar, derbyniol, masnachol a phosibl. Ond rhaid i mi ddeud, er fod digonnadd o'r stwff yn y ddaear, a bod yr erthygl yn swnio'n hynod o obeithiol, nad oeddwn i'n cael fy argyhoeddi 100%.

Dwi'n dal i gredu ein bod ar drothwy calamiti - ond fod'na obaith, o leiaf, achos mae dyn yn ddigon dyfeisgar i ffendio ffordd lanach a rhatach o ryddhau'r olew 'ma o'r siâl, yn hwyr neu'n hwyrach. Ond gobaith - a ras yn erbyn amser - yn unig ydi hynny, fel y gobaith o ddarganfod ffynhonellau newydd o ynni.

Dwi'm isio gweld y byd yn llawn o gnydau GM a reactors niwcliar, ond falla ei bod hi'n bryd i ni sylweddoli a derbyn fod dyfeisgarwch dyn yn beth naturiol - yn rhan o Natur ei hun - a nad yw defnyddio'r dyfeisgarwch hwnnw yn rhesymol, yn mynd yn groes i natur.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron