Lehman Bros et al

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lehman Bros et al

Postiogan huwwaters » Llun 15 Medi 2008 12:37 pm

Dipyn o broblem fan hyn, yn does?

Dyma ffaeliadau'r system cyfalafol sy'n dibynnu ar wneud elw fythol. Rhaid cofio fod elw rhywun yn cael ei greu ar golled rhywun arall, neu yn yr achosion mwyaf diweddar, elw o bres sy ddim yn bodoli.

Tydw i ddim yn gwbad llawer am yr economi, ond mae'n ymddangos fod Karl Marx yn gwyir i raddau, cymaint gwneith pobol asgell dde gwadu, fod angen i'r economi gael ei reoli i raddau achos fod rhai sydd ddim yn gweithio o fewn cyfyngiadau yn rhydd i gael eu hunain mewn llanast. Yr oedd Lehman Brothers yn un o'r sefydliadau pres nad oedd yn cael ei reoli, neu yn gweithio o fewn cyfyngiadau, yn wahanol i Freddie Mac a Fannie Mae.

Braidd yn wirion i fanciau fod yn benthyg pres i bobol a oedd heb obaith o'i dalu'n ôl. Ai rŵan di'r amser i bawb sylweddoli na fedryn nhw fyw bywydau celebrity ac i fod yn fodlon efo bwyd ar y bwrdd a to uwchben eu pennau?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Lehman Bros et al

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 15 Medi 2008 6:25 pm

Mae na lot o wirionedd yno. Ond rhaid dweud nad bob tro fydd elwa ar draul rhywun arall, dim ond 99.99% o'r amser. Y peth sy'n gwneud arian ydy cynhyrchu - e.e. tyfu bwyd, palu am fwynau neu wneud pethau. Does dim cyfoeth gwirioneddol mewn gwthio pres o gwmpas, benthyg ac yn y blaen. Felly, rhaid wrth amaethwyr, glowyr a gwneuthuriadwyr, yn hytrach na phobl sy'n ceisio gwerthu benthyciadau. Heb gynnyrch, diystyr gwasanaeth.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Lehman Bros et al

Postiogan Nanog » Maw 16 Medi 2008 7:39 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae na lot o wirionedd yno. Ond rhaid dweud nad bob tro fydd elwa ar draul rhywun arall, dim ond 99.99% o'r amser. Y peth sy'n gwneud arian ydy cynhyrchu - e.e. tyfu bwyd, palu am fwynau neu wneud pethau. Does dim cyfoeth gwirioneddol mewn gwthio pres o gwmpas, benthyg ac yn y blaen. Felly, rhaid wrth amaethwyr, glowyr a gwneuthuriadwyr, yn hytrach na phobl sy'n ceisio gwerthu benthyciadau. Heb gynnyrch, diystyr gwasanaeth.


Cytuno..... :)

Ta beth....at Lehman's......

LEHMAN EXECS TO LEAD SLIGHTLY LESS OPULENT LIFESTYLES
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Lehman Bros et al

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 17 Medi 2008 5:49 pm

Mae Halifax/Bank of Scotland yn cael ei brynu gan Lloyds TSB. Sut mae hynny yn mynd i effeithio ar arian cyfredol yr Alban tybed?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Lehman Bros et al

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 17 Medi 2008 6:43 pm

Bydd yn ddiddorol i weld! Efallai bydd Banc Llwyd yn argraffu arian papur yr Alban... Wel, mae na 3 banc sy'n cynhyrchu arian papur yn yr Alban, sef Lloyd's/Halifax, Bank of Australia (Clydesdale) a Banc Brenhinol yr Alban
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Lehman Bros et al

Postiogan Lorn » Iau 18 Medi 2008 10:59 am

Swn i'm yn gweld o'n neud unrhyw wahaniaeth i'r arian Banc of Scotland sy'n cael ei gynhyrchu. Fel ddywedodd Sioni, mae'r Clydesdale Bank sy'n berchen gan y Bank of Australia yn dal i gynhyrchu eu harian nhw felly does dim rheswm pam byddai Lloyds yn stopio gadael i'r Bank of Scotland gynhyrchu eu harian nhw. Byddai'n debygol o fod yn gamgymeriad mawr o ran colli eu cwsmeriaid petai'r perchnogion newydd yn cael gwared o'r brand ac hunaniaeth Albaniadd sydd wedi parhau'n gryf hyd yn oed ar ol iddynt uno a'r Halifax.

Un peth byddai'n ddifyr i weld serch hynny ydy sut bydd hyn efallai'n effeithio ymhellach ar y gefnogaeth i Gordon Brown ac i'r Blaid Lafur yn yr Alban. Mae'n debyg bod Gordon Brown wedi bod yn ymyrryd yn bersonol i geisio gwthio'r uno yma rhwng y ddau gwmni, er bod 10au o filoedd o Albanwyr yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan HBoS gyda nifer sylweddol yn debygol o golli'w swyddi. Yn enwedig o ystyried na fyddai uniad o'r fath yn cael digwydd mewn sefyllfa economaidd oherwydd prydeon am effaith ar gystadeuaeth ac ati. Felly yn y bôn mae Gordon Brown, yr Albanwr wedi caniatau i swyddi yn yr Alban gael eu colli er budd 'y greater good'.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Lehman Bros et al

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 19 Medi 2008 9:57 pm

Lorn a ddywedodd:Un peth byddai'n ddifyr i weld serch hynny ydy sut bydd hyn efallai'n effeithio ymhellach ar y gefnogaeth i Gordon Brown ac i'r Blaid Lafur yn yr Alban. Mae'n debyg bod Gordon Brown wedi bod yn ymyrryd yn bersonol i geisio gwthio'r uno yma rhwng y ddau gwmni, er bod 10au o filoedd o Albanwyr yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan HBoS gyda nifer sylweddol yn debygol o golli'w swyddi. Yn enwedig o ystyried na fyddai uniad o'r fath yn cael digwydd mewn sefyllfa economaidd oherwydd prydeon am effaith ar gystadeuaeth ac ati. Felly yn y bôn mae Gordon Brown, yr Albanwr wedi caniatau i swyddi yn yr Alban gael eu colli er budd 'y greater good'.

Mae'n wir - bydd swyddi'n mynd yn yr Alban ac yng Nghymru (Banc Llwyd?) yn ogystal ag yn Lloegr. Ond dyma'r peth pwysig - faint o swyddi sy'n mynd i gael eu colli efo'r cyfuniad HaliScotLloyd, a faint fyddai wedi colli petai HBoS wedi mynd i'r wal? Mae ychydig swyddi Lehmans wedi cael eu harbed gan Farclays - ond bydd y rhan fwyaf yn mynd i ebargofiant (rhy fath o dwll du yn Swydd Efrog...). Gwaeth dim swyddi na llai swyddi, swn i'n credu. Ond dyna chi - cyfalafaeth, ar fethu fel arfer.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron