Dipyn o broblem fan hyn, yn does?
Dyma ffaeliadau'r system cyfalafol sy'n dibynnu ar wneud elw fythol. Rhaid cofio fod elw rhywun yn cael ei greu ar golled rhywun arall, neu yn yr achosion mwyaf diweddar, elw o bres sy ddim yn bodoli.
Tydw i ddim yn gwbad llawer am yr economi, ond mae'n ymddangos fod Karl Marx yn gwyir i raddau, cymaint gwneith pobol asgell dde gwadu, fod angen i'r economi gael ei reoli i raddau achos fod rhai sydd ddim yn gweithio o fewn cyfyngiadau yn rhydd i gael eu hunain mewn llanast. Yr oedd Lehman Brothers yn un o'r sefydliadau pres nad oedd yn cael ei reoli, neu yn gweithio o fewn cyfyngiadau, yn wahanol i Freddie Mac a Fannie Mae.
Braidd yn wirion i fanciau fod yn benthyg pres i bobol a oedd heb obaith o'i dalu'n ôl. Ai rŵan di'r amser i bawb sylweddoli na fedryn nhw fyw bywydau celebrity ac i fod yn fodlon efo bwyd ar y bwrdd a to uwchben eu pennau?