gan Seonaidh/Sioni » Gwe 03 Hyd 2008 10:10 pm
Mae'n wir fod cyfalafiaeth wedi methu unwaith eto - dim byd newydd yno. Diffyg rheolaeth? Wel, doedd y diffyg ddim yn helpu, ond roedd pethau am fynd yn ofnadwy beth bynnag. Be sy wedi digwydd? Yn y gorffennol, cynhyrchai gwledydd fel y DU a'r UD lot o nwyddau ac, ar sgil hyn, deuai nhw'n fancwyr y byd, a'r holl ddyled yn fforddiadwy oherwydd y Cynhyrchu. Ond rwan dan nhw ddim yn cynhyrchu lot o gwbl - yn sicr dim digon i dansgwennu'r holl ddyled. Felly, mae'n hen bryd inni ddownsizio. Naill ai hynny neu ddechrau cynhyrchu pethau go sylweddol cyn gynted ag y bo fodd. Does dim dyfodol mewn benthyg arian i bobl sy'n benthyg arian i bobl sy'n benthyg arian i...mae'r peth yn mynd rownd a rownd ac yn y diwedd yn doflannu i fyfny ei din ol ei hun. Os am greu cyfoeth, rhaid i'w gael o allan o'r ddaear, neu yn tyfu yn y ddaear, neu i'w greu allan o ddeunydd arall.
Cyfalafiaeth? Dyna'r credo sy'n deud "Y peth pwysicaf mewn cynhyrchu ydy ei ariannu, a'r cyfoeth pwysicaf ydy arian". Mewn sustem cyfalafiaeth, mae arian - a'i wasanaethu - yn bwysicach na pherson a'r ennill am waith galed. Ac, wrth gwrs, pryd mae'r arian yn dechrau diflannu mewn gagendor dyled, cewch chi ddiswyddo, colli tai ac, yn y diwedd, newyn, afiechyd a marwolaeth.
A bheil thu gam aithneachadh?