Tudalen 1 o 2

Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Iau 02 Hyd 2008 9:58 pm
gan Hedd Gwynfor
A yw'r problemau enbyd sydd yn wynebu y system gyfalafol bydol yn profi nad yw cyfalafiaeth yn drefn y gellir dibynnu arni? Dwi'n meddwl ei fod yn hurt fod gwleidyddion ceidwadol yn beio bancwyr am fod yn farus, onid bod yn farus a gwneud y mwyaf o arain a phosibl yw holl bwynt cyfalafiaeth? A beth yw'r ateb? Gwladoli yn ol Bush a Brown = sosialaeth!

Os yw rhywun yn dadlai o blaid trefn gomiwnyddol, mae pobl o hyd yn pwyntio at Rwsia i 'brofi' mae methiant yw trefn o'r fath, onid gellid dweud yr un peth am gyfalafiaeth felly yn dilyn ffars y misoedd diwethaf?

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Gwe 03 Hyd 2008 10:02 am
gan Blewyn
Ar bobl mae angen dibynnu, nid trefn. Achos y "methiant" yma yw diffyg rheolaeth.

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Gwe 03 Hyd 2008 10:07 am
gan ceribethlem
Blewyn a ddywedodd:Ar bobl mae angen dibynnu, nid trefn. Achos y "methiant" yma yw diffyg rheolaeth.

O'n i'n meddwl fod ffans cyfalafiaeth yn awgrymu nad oedd angen rheolaeth ar y system, mae ffurf o ryddid llwyr o reolaeth oedd hi fod?

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Gwe 03 Hyd 2008 10:10 pm
gan Seonaidh/Sioni
Mae'n wir fod cyfalafiaeth wedi methu unwaith eto - dim byd newydd yno. Diffyg rheolaeth? Wel, doedd y diffyg ddim yn helpu, ond roedd pethau am fynd yn ofnadwy beth bynnag. Be sy wedi digwydd? Yn y gorffennol, cynhyrchai gwledydd fel y DU a'r UD lot o nwyddau ac, ar sgil hyn, deuai nhw'n fancwyr y byd, a'r holl ddyled yn fforddiadwy oherwydd y Cynhyrchu. Ond rwan dan nhw ddim yn cynhyrchu lot o gwbl - yn sicr dim digon i dansgwennu'r holl ddyled. Felly, mae'n hen bryd inni ddownsizio. Naill ai hynny neu ddechrau cynhyrchu pethau go sylweddol cyn gynted ag y bo fodd. Does dim dyfodol mewn benthyg arian i bobl sy'n benthyg arian i bobl sy'n benthyg arian i...mae'r peth yn mynd rownd a rownd ac yn y diwedd yn doflannu i fyfny ei din ol ei hun. Os am greu cyfoeth, rhaid i'w gael o allan o'r ddaear, neu yn tyfu yn y ddaear, neu i'w greu allan o ddeunydd arall.

Cyfalafiaeth? Dyna'r credo sy'n deud "Y peth pwysicaf mewn cynhyrchu ydy ei ariannu, a'r cyfoeth pwysicaf ydy arian". Mewn sustem cyfalafiaeth, mae arian - a'i wasanaethu - yn bwysicach na pherson a'r ennill am waith galed. Ac, wrth gwrs, pryd mae'r arian yn dechrau diflannu mewn gagendor dyled, cewch chi ddiswyddo, colli tai ac, yn y diwedd, newyn, afiechyd a marwolaeth.

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Sad 04 Hyd 2008 7:55 am
gan Blewyn
ceribethlem a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Ar bobl mae angen dibynnu, nid trefn. Achos y "methiant" yma yw diffyg rheolaeth.

O'n i'n meddwl fod ffans cyfalafiaeth yn awgrymu nad oedd angen rheolaeth ar y system, mae ffurf o ryddid llwyr o reolaeth oedd hi fod?

Na. Eu dadl oedd for marchnad rhydd yn rheoli ei hun. Mae hyn yn wir, ond t'ydy'r lefel naturiol ffendith y farchnad ar ben ei hun ddim bob tro yn ddefnyddiol neu ymarferol i gymdeithas ar y cyfan. Ar ben hynny mae gen ti'r broblem o or-grynodiad o rym y farchnad mewn nifer isel o berchennogion (y diwydiant meddalwedd fel esiampl).

Con oedd rhyddfarchnadaeth reit o'r dechrau, dogma syml i gystadlu efo dogma hunan-bwysig y chwith am feddyliau a chalonnau y rhan helaeth o'r boblogaeth oedd

a) eisiau cyfiawnhau gwanc
b) yn deall digon am economeg i fod yn berygl

D'oes gen i ddim dowt fod y rhai oedd yn palu'r con yn deall yn llawn mai dyfeis oedd i gipio cyfoeth y wlad o'r bobl a'i roi yn ol yn nwylo'r dosbarth perchennogi, nid rhywbeth er budd pobl y wlad ar y cyfan.

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Sad 04 Hyd 2008 8:08 am
gan Blewyn
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae'n wir fod cyfalafiaeth wedi methu unwaith eto - dim byd newydd yno. Diffyg rheolaeth? Wel, doedd y diffyg ddim yn helpu, ond roedd pethau am fynd yn ofnadwy beth bynnag. Be sy wedi digwydd? Yn y gorffennol, cynhyrchai gwledydd fel y DU a'r UD lot o nwyddau ac, ar sgil hyn, deuai nhw'n fancwyr y byd, a'r holl ddyled yn fforddiadwy oherwydd y Cynhyrchu. Ond rwan dan nhw ddim yn cynhyrchu lot o gwbl - yn sicr dim digon i dansgwennu'r holl ddyled. Felly, mae'n hen bryd inni ddownsizio. Naill ai hynny neu ddechrau cynhyrchu pethau go sylweddol cyn gynted ag y bo fodd. Does dim dyfodol mewn benthyg arian i bobl sy'n benthyg arian i bobl sy'n benthyg arian i...mae'r peth yn mynd rownd a rownd ac yn y diwedd yn doflannu i fyfny ei din ol ei hun. Os am greu cyfoeth, rhaid i'w gael o allan o'r ddaear, neu yn tyfu yn y ddaear, neu i'w greu allan o ddeunydd arall.

Clywch clywch ! (os di hynna'n ddeud iawn)
Dwi'n meddwl mai at ddirywiad tymor hir y gwledydd datblygedig i'w cymharu a'r gwledydd sy'n datblygu ti'n cyfeirio yma, yn hytrach na'r gwasgiad credyd presennol ?
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Cyfalafiaeth? Dyna'r credo sy'n deud "Y peth pwysicaf mewn cynhyrchu ydy ei ariannu, a'r cyfoeth pwysicaf ydy arian". Mewn sustem cyfalafiaeth, mae arian - a'i wasanaethu - yn bwysicach na pherson a'r ennill am waith galed.

Mae hyn fel dweud fod y lein fesur ar dy wydr peint yn bwysicach na'r cwrw. Modd o fesur gwerth ydy arian, nid gwerth ynddo ei hun. Mae'r problemau yn digwydd pan fo'r rhai sy'n gwasanaethu (h.y chwarae triciau efo) arian yn cael gormod o ryddid.

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Iau 09 Hyd 2008 7:55 pm
gan Hedd Gwynfor
Byddai'n dda cael barn y rhai adain dde yn ein mysg ar hyn. Unrhyw un wedi gweld yr hen Gath Ddu yn ddiweddar? :winc:

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Iau 09 Hyd 2008 10:08 pm
gan Macsen
Hedd Gwynfor a ddywedodd:A yw'r problemau enbyd sydd yn wynebu y system gyfalafol bydol yn profi nad yw cyfalafiaeth yn drefn y gellir dibynnu arni?

Wel mae hynny yn gor-symylediddio braidd. Dyw comiwnyddiaeth ar un pegwn nag chwaith cyfalafiaeth gwbwl rhydd a y llall i weld yn gweithio, sydd jesd yn dangos mai ryw gyfalafiaeth gyda rhai amodau a polisiau i warchod y gwan ac anlwcus a rhwysro'r barus a llwyddiannus rhag peryglu'r sustem gyfan er eu lles eu hunain yw'r ateb. Dio'm yn fater o ddewis un na'r llall ond cael y balans cywir. Yn achos y system ariannol mae'n edrych fel petai dim digon o amodau wedi bod mewn lle a'r cwbwl wedi dod oddi ar y cledrau braidd.

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Gwe 10 Hyd 2008 12:11 pm
gan Chickenfoot
I ddyfynnu GTA: Vice City: You're Sounding a bit red there, Vladimir! :crechwen:

Re: Cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Gwe 20 Chw 2009 7:13 pm
gan Blewyn
Tybed pam, bob tro mae'na sgwrs yn bygwth troi'n ddiddorol ar Maes-e, mae'na rhyw rwdlyn plentynaidd yn codi ei big ac yn postio rwtch fel yr uchod ?