Chickenfoot a ddywedodd:I ddyfynnu GTA: Vice City: You're Sounding a bit red there, Vladimir!
Blewyn a ddywedodd:Tybed pam, bob tro mae'na sgwrs yn bygwth troi'n ddiddorol ar Maes-e, mae'na rhyw rwdlyn plentynaidd yn codi ei big ac yn postio rwtch fel yr uchod ?
Dau sylw difir!
Un o hanfodion y gêm mae Chickenfoot yn cyfeirio ato, yw gwneud "unrhyw beth i ddod ymlaen yn y byd". Un o wendidau'r gêm yw bod modd cael mwy o arian na sydd modd ei wario yn y gêm yn gynnar yn y chware, ond bod y gêm yn mynnu i'r arwr gwneud mwy a mwy o ddrwgweithredoedd er mwyn curo, er gwaetha'r ffaith nad oes angen ariannol i barhau, a byddai modd i'r wrthun ymddeol efo celc cyffyrddus ymhell cyn y misiwn olaf, ac yn sicr cyn cael 100%.
Mae'r gêm yn barodi gwbl ddechau o'r
unacceptable face of capitalism, chwedl Ted Heath, a achosodd y dirwasgiad presennol!
Sylw sy ddim cweit mor blentynnaidd ac y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf, hwyrach!