Rydw i wedi cael llond bol o'r XXX etholiad sy'n dwad yn yr UD a'r holl ymgeisyddion sy'n sefyll, o'r Gwyddel O'Bama hyd yr Inuit Palin. Mae newydd fod etholiad am reolydd newydd yn y Maldives - dan ni ddim wedi clywed dim byd am yr ymgyrchoedd fan cw nac ydyn? A dyna Burlesque o'n i yn sefyll yn yr Eidal yn ddiweddar - chlywsom ni mond ychydig bach am hynny pan ddigwyddodd. Be sy arbennig am yr UD? Y ffaith eu bod nhw'n ceisio siarad Saesneg, yn annhebyg i'r Rwsiaid neu'r Seiniaid? Sain credu - dydym ni ddim yn clywed llawer am etholiadau yng Nghanada, Awstralia, Seland Newydd ac ati.
Na, credaf mai media circus sy ohoni, h.y. fod lot o bethau o ychydig bwys yn cael eu manylu yn yr UD ac yn eu telathrebu byd-eang. Os bydd neb yn bwyta ci yn yr UD, bydd hynny ar ein newyddion ni yma fel stori o bwys. Petai'r un peth - a gwaeth - yn digwydd yn, dyweder, yr India, byddai heb son ar ein newyddion ni. Petai mil o lowyr yn cael eu lladd mewn ffrwydrad yn Seina, byddem ni'n clywed ychydig am hynny, efallai am ddiwrnod neu ddau. Petai cwpwl o lowyr yn trengi mewn pwll glo yn yr UD, byddai hynny yn llenwi ein newyddion am wythnos.
Faint o bobl sy wedi marw, eleni, mewn stormydd yn Seina? Ac yn yr UD? Ac ym Murma (miloedd, heb os)? Dan ni wedi clywed am Furma, efallai bron cymaint a dan ni wedi clywed am hwracans yn bygwth yr UD, lle (os cofia i'n iawn) ni fu neb farw o ganlyniad.
Hefyd, faint o wahaniaeth sydd rhwng y ddwy brif blaid yn yr UD? Llai, swn i'n credu, nag yr oedd rhwng yr Rhyddfrydwyr a'r SDP yn yr 80au (erbyn hyn wedi ymuno i ffurfio'r Lib-Dems). Ped etholid Tweedledum, bydd yr UD yn ceisio arbed eu sustem fancio ac yn lleihau eu presenoldeb yn Irac. Ped etholid Tweedledee, bydd yr un yn digwydd. Efallai byddai pethau tipyn yn wahanol rhwng y pleidiau gartref - ond fydd hynny ddim yn effeithio ar weddill y byd. Felly, pam rhegi dyn ni'n gwilio a dilyn yr etholiad fan cw o gwbl? Oes ots i ni pwy enillith?