Ble mae'r Unol Daleithiau?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ble mae'r Unol Daleithiau?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 10 Hyd 2008 9:28 pm

Rydw i wedi cael llond bol o'r XXX etholiad sy'n dwad yn yr UD a'r holl ymgeisyddion sy'n sefyll, o'r Gwyddel O'Bama hyd yr Inuit Palin. Mae newydd fod etholiad am reolydd newydd yn y Maldives - dan ni ddim wedi clywed dim byd am yr ymgyrchoedd fan cw nac ydyn? A dyna Burlesque o'n i yn sefyll yn yr Eidal yn ddiweddar - chlywsom ni mond ychydig bach am hynny pan ddigwyddodd. Be sy arbennig am yr UD? Y ffaith eu bod nhw'n ceisio siarad Saesneg, yn annhebyg i'r Rwsiaid neu'r Seiniaid? Sain credu - dydym ni ddim yn clywed llawer am etholiadau yng Nghanada, Awstralia, Seland Newydd ac ati.

Na, credaf mai media circus sy ohoni, h.y. fod lot o bethau o ychydig bwys yn cael eu manylu yn yr UD ac yn eu telathrebu byd-eang. Os bydd neb yn bwyta ci yn yr UD, bydd hynny ar ein newyddion ni yma fel stori o bwys. Petai'r un peth - a gwaeth - yn digwydd yn, dyweder, yr India, byddai heb son ar ein newyddion ni. Petai mil o lowyr yn cael eu lladd mewn ffrwydrad yn Seina, byddem ni'n clywed ychydig am hynny, efallai am ddiwrnod neu ddau. Petai cwpwl o lowyr yn trengi mewn pwll glo yn yr UD, byddai hynny yn llenwi ein newyddion am wythnos.

Faint o bobl sy wedi marw, eleni, mewn stormydd yn Seina? Ac yn yr UD? Ac ym Murma (miloedd, heb os)? Dan ni wedi clywed am Furma, efallai bron cymaint a dan ni wedi clywed am hwracans yn bygwth yr UD, lle (os cofia i'n iawn) ni fu neb farw o ganlyniad.

Hefyd, faint o wahaniaeth sydd rhwng y ddwy brif blaid yn yr UD? Llai, swn i'n credu, nag yr oedd rhwng yr Rhyddfrydwyr a'r SDP yn yr 80au (erbyn hyn wedi ymuno i ffurfio'r Lib-Dems). Ped etholid Tweedledum, bydd yr UD yn ceisio arbed eu sustem fancio ac yn lleihau eu presenoldeb yn Irac. Ped etholid Tweedledee, bydd yr un yn digwydd. Efallai byddai pethau tipyn yn wahanol rhwng y pleidiau gartref - ond fydd hynny ddim yn effeithio ar weddill y byd. Felly, pam rhegi dyn ni'n gwilio a dilyn yr etholiad fan cw o gwbl? Oes ots i ni pwy enillith?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ble mae'r Unol Daleithiau?

Postiogan anffodus » Sul 12 Hyd 2008 11:50 am

Sioni, dwi'm yn arbenigwr ar wleidyddiaeth na dim ond dwi'n meddwl bo chdi'n malu awyr eitha dipyn fan hyn.

Ar hyn o bryd, America ydi unig superpower y byd a ma bod yn Arlywydd y wlad honno yn golygu bod y boi mwya pwerus ar wynab y ddaear - sydd yn eitha big deal os nad ydw i'n camgymryd - gallu cychwyn rhyfeloedd byd, rhyfeloedd niwclear a ryw stwff fela. A ma pwy sy'n cal ei ddewis i'r swydd honno yn beth reit bwysig - bys ar y botwm and all that jazz. A ma'r newyddion o'r wlad honno felly'n fwy pwysig na be sy'n digwydd mewn gwledydd fwy di-nod o ran pwer a statws yn y byd.

Chwara teg i chdi am gymryd diddordab yng ngwleidyddiaeth y Maldives - ond, yn gyffredinol, sgin pobl Prydian ddim diddordab yn fanno. Ar y llaw arall, mae America a'i harlywydd 'di bod yn ca'l effaith fawr arnan ni'n ystod y blynyddoedd dwytha 'ma - aethon nhw â ni i ryfal yn Irac ag Affganistan aballu ac yn America ma'r Credit Crunch wedi cychwyn ac wsnos dwytha hyd yn oed - o'dd os oedd eu Senedd nhw'n pasio'r ddeddf 'na o'dd yn rhoi $700 bliliwn i'r bancia' yn bwysig am bod hynny'n mynd i effeithio'r bancia a'r sefyllfa ariannol yn y wlad yma - a ma'r sefyllfa ariannol yn fan hyn yn reit bwysig i'r bobl.

Dw i'n dallt be ti'n feddwl efo bod 'na lot o sylw ond ma'r stwff 'ma wir yn bwysig ma'n debyg, a ma' 'na otsh pwy sy'n ennill. Iawn, ma nhw'n gaddo i neud rhei petha'r un fath ond ma achub y sustem fancio a thynnu milwyr allan o Irac yn beth pwysig sy angan ei neud felly mi ddylian nhw gal lle blaenllaw ym mholisia'r ddau sy'n sefyll dylian. Ond ma na wahaniaetha - ti'n gwbod hynny siawns. A ma'n eitha difyr i'w ddilyn i ddeud gwir.

Eniwe, hwyl.

Seina
O ia, dim byd yn erbyn pobl yn cymreigio sillafiada o ryw betha 'de, ond plis, gna iddo fo swnio fel y gair gwreiddiol - o'n i'n darllan hannar dy bostiad di'n meddwl bo chdi'n sôn am ryw le lle o'dd yr Afon Seine yn llifo ne wbath!
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Ble mae'r Unol Daleithiau?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 12 Hyd 2008 10:06 pm

Ay - malu awyt ydw i - ond mae fel protest yn erbyn gormes y cyfryngau (neu argyfyngau...) UDgydiol sy gennym.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai