http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/7678907.stm
Wel, mae'n ymddangos fod Colin Powell wedi agor ei geg o'r diwedd, drwy ddangos ei gefnogaeth dros Barack Obama. Dwi'n meddwl na'r rhesymau y tu ôl i hyn yw ei fod yn cydnabod yr hiliaeth a'r anwybodusrwydd sy'n gysylltiedig â nifer o gefnogwyr y Blaid Werinol a'r honiadau fod Obama yn Foslem etc. a chrysau-t gyda delwedd mwnci ac "Obama" oddi tano. Un arall yw fod Obama yn Werinwr gymhedrol, a ddim yn yn hoff o bobol asgell dde iawn fel Palin.
Dwi di bod yn disgwyl rhywbeth gan y dyn ers blynyddoedd wrth iddo ddiflanu o'i swydd yn ddistaw a ddim llawer yn dod o'i geg o blaid Iraq. Dwi wirioneddol yn meddwl fod o'n ticking time-bomb i lywodraeth Bush gan ei fod yn berson uchel ei barch i'r Gwerinieithwyd a'r Democratiai gyda mynediad at wybodaeth milwrol sensitif.
Byse fo ddim yn fy synnu petai Powell yn gweithio i weinyddiaeth Obama os cai ei ethol.