Colin Powell yn agor ei geg (o'r diwedd)

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Colin Powell yn agor ei geg (o'r diwedd)

Postiogan huwwaters » Llun 20 Hyd 2008 12:26 pm

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/7678907.stm

Wel, mae'n ymddangos fod Colin Powell wedi agor ei geg o'r diwedd, drwy ddangos ei gefnogaeth dros Barack Obama. Dwi'n meddwl na'r rhesymau y tu ôl i hyn yw ei fod yn cydnabod yr hiliaeth a'r anwybodusrwydd sy'n gysylltiedig â nifer o gefnogwyr y Blaid Werinol a'r honiadau fod Obama yn Foslem etc. a chrysau-t gyda delwedd mwnci ac "Obama" oddi tano. Un arall yw fod Obama yn Werinwr gymhedrol, a ddim yn yn hoff o bobol asgell dde iawn fel Palin.

Dwi di bod yn disgwyl rhywbeth gan y dyn ers blynyddoedd wrth iddo ddiflanu o'i swydd yn ddistaw a ddim llawer yn dod o'i geg o blaid Iraq. Dwi wirioneddol yn meddwl fod o'n ticking time-bomb i lywodraeth Bush gan ei fod yn berson uchel ei barch i'r Gwerinieithwyd a'r Democratiai gyda mynediad at wybodaeth milwrol sensitif.

Byse fo ddim yn fy synnu petai Powell yn gweithio i weinyddiaeth Obama os cai ei ethol.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Colin Powell yn agor ei geg (o'r diwedd)

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 20 Hyd 2008 12:37 pm

Dyma'r llun ddaru Powell gyfeirio ato yn ei gyfweliad:
Delwedd
Falch bo rhywun o'r diwedd wedi dweud nad oes na broblem efo bod yn Foslem yn America.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Colin Powell yn agor ei geg (o'r diwedd)

Postiogan Chickenfoot » Maw 21 Hyd 2008 10:08 am

Falch bo rhywun o'r diwedd wedi dweud nad oes na broblem efo bod yn Foslem yn America.


Pwynt da; ond am bob Americanwr daeallus a resymol mae na un ddau wancar.

Consider this knob, for example:

http://uk.youtube.com/watch?v=pmcXL_fGrss&feature=related


http://uk.youtube.com/watch?v=iXA0SlEDApc


Y peth dychrynllyd fod miliynau o wancars ar draws y byd yn cyntuno hefo'r tosser bach dieflig yma - a swn i'n betio fod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y UDA. Pan mai Bill O'Reilly yw'r "voice of reason", mae rywbeth yn bod.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron