gan Nanog » Llun 02 Ion 2012 9:13 am
Beth yw barn pobl maes-e am Obama erbyn hyn? Rwy'n gweld ei fod newydd arwyddo deddfwriaeth fydd yn galluogi pobl cael eu arestio, caethiwo neu eu danfon i Guantanamo heb iddynt gael eu cyhuddo o unrhyw dorr cyfraith? Ac wrth gwrs, mae'r dyn wnaeth ennill gwobr Nobel dros heddwch yn dal a'i filwyr yn Afghanistan ac yn ymosod yn rheolaidd ar Bacistan gyda'i ddrones ac yn awr i weld yn dechrau bangio'r drymiau ryfel parthed Iran. Oh.....anghofies i Libya.
ON Beth ddigwyddodd i fy sylwadau blaenorol oedd yn beirniadu Obama gan ddefnyddio linc i ddarn John Pilger oedd yn ei feirniadu'n llym iawn. Mae'n amlwg fod rhai o ffans Obama yn 'ffanatics'. Se fe ddim mor drist, byddai'n ddoniol.