Tudalen 1 o 1

Wicipedia Cymraeg - o blaid Llain Gaza a Hamas

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 5:50 am
gan r w jones
Pa mor wrthrychol ydy'r erthygl ar ddigwyddiadau diweddar y Llain Gaza ar Wicipedia? -

http://cy.wikipedia.org/wiki/Ymosodiad_ ... 3presennol

Tydy o ddim yn son fawr ddim am effaith rocedi Hamas ar ddinasyddion Israel !

Re: Wicipedia Cymraeg - o blaid Llain Gaza a Hamas

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 12:03 pm
gan Griff-Waunfach
Beth am ei olygu?

Re: Wicipedia Cymraeg - o blaid Llain Gaza a Hamas

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 2:42 pm
gan Hedd Gwynfor
r w jones a ddywedodd:Pa mor wrthrychol ydy'r erthygl ar ddigwyddiadau diweddar y Llain Gaza ar Wicipedia? -

http://cy.wikipedia.org/wiki/Ymosodiad_ ... 3presennol

Tydy o ddim yn son fawr ddim am effaith rocedi Hamas ar ddinasyddion Israel !


Mae trafodaeth ar yr erthygl yma. (gwasgwch ar 'sgwrs ar dop unrhyw erthygl Wicipedia i weld os oes trafodaeth.) Efallai dylid gofnodi dy bryderon yma? Mae modd golygu'r erthygl yma. Yn bersonol, dwi ddim yn gweld dim o'i le gyda'r erthygl.

Er gwybodaeth dyma'r fersiwn Saesneg - http://en.wikipedia.org/wiki/December_2 ... airstrikes

Re: Wicipedia Cymraeg - o blaid Llain Gaza a Hamas

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2009 4:15 pm
gan Sioni Size
Y 4 roced laddodd neb gafodd ei lawnsio ar ol i Israel ladd 28 o Balestiniaid yn ystod y 'cadoediad' 6 mis wyt ti'n feddwl? Y rocedi hynny?

Re: Wicipedia Cymraeg - o blaid Llain Gaza a Hamas

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 12:29 pm
gan ITV Local Cymru
Yr wythnos hon ar Y Byd ar Bedwar, bydd y gohebydd Eifion Glyn yn Gaza.

Am flas o'r rhaglen a chyfweliad egscliwsif gydag Eifion Glyn ewch i:

http://www.itvlocal.com/cymru/y_byd_ar_bedwar/

Re: Wicipedia Cymraeg - o blaid Llain Gaza a Hammy the Hamster

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 8:13 pm
gan Seonaidh/Sioni
ITV Lleol Wales a ddywedodd:Yr wythnos hon ar Y Byd ar Bedwar, bydd y gohebydd Eifion Glyn yng Ngaza.
Am flas o'r rhaglen a chyfweliad egscliwsif gydag Eifion Glyn ewch i:
http://www.itvlocal.com/cymru/y_byd_ar_bedwar/

Dwim isho gweld cyfweliad eggs-glue-sniff! Mae'r rhegi bost yma wedi ymddangos mewn o leia 3 lle ar Faes-e.com. Ai bot sy yno? A beth yn y byd sy ar Bedwyr...