Gwarth ar y BBC. Danfonwch gwyn at y BBC am wrthod darlledu Apel Gaza, ac anogwch eich cysylltiadau i wneud yr un peth - http://www.bbc.co.uk/complaints/complaints_stage1.shtml
Gallwch gyfrannu i'r apel yma: https://www.donate.bt.com/bt_form_gaza.html
Dyma ddatganiad y DEC yn Gymraeg:
Apêl Argyfwng Gaza,
DEC Cymru
Elusennau Cymru yn lansio apêl ar y cyd i leddfu'r sefyllfa ddyngarol yn Gaza
Heddiw (22 Ionawr) mae rhai o brif elusennau Cymru yn apelio ar y cyhoedd i roi cymorth i'r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan y sefyllfa yn Gaza.
Wrth lansio Apêl Argyfwng Gaza, dywedodd Richard Laydon, Cadeirydd DEC Cymru fod y dinistr yn nhiriogaeth Gaza mor enfawr fel bod asiantaethau yng Nghymru wedi eu cymell i weithredu.
Mae dros 1,300 o Balestiniaid wedi eu lladd yn y gwrthryfel, a miloedd wedi eu hanafu, gan beri bod yr ysbytai lleol yn orlawn. Mae'r sefyllfa wedi gadael pobl yn ddigartref a nifer o blant heb fodd i gael addysg; mae pwer, bwyd a dwr glân yn annigonol ar gyfer anghenion y boblogaeth.
Meddai Richard Laydon: "Mae gan asiantaethau y DEC fandad dyngarol. Nid ydym yn bwriadau ymgeisio i ail-adeiladu Gaza - nid dyna yw ein rôl. Ond gyda chefnogaeth pobl Cymru gallwn gwrdd â'r anghenion yn y tymor-byr. Mae asiantaethau eisoes yn cyflenwi bwyd, meddyginiaethau a blancedi yn ogystal â dwr glân.
"Ond heb fwy o arian, mae cyfyngiadau i'r hyn allwn ni ei wneud. Ar gyfer y rheiny sy'n dioddef ac yn brwydro i oroesi, mae derbyn cymorth dyngarol ar frys yn gam allweddol tuag at wella ac ail-afael yn eu bywydau."
Pwysleisiodd Richard Laydon fod asiantaethau dyngarol DEC yn anllywodraethol. "Rydym yn gweithio ar sail yr angen dyngarol ac mae gwir angen cymorth yn Gaza heddiw. Mae darganfod yr atebion gwleidyddol yn rywbeth i eraill eu datrys, ond yr hyn sydd yn ofid calon i ni yw bod cymaint o bobl ddiniwed wedi eu heffeithio gan y sefyllfa - a nhw yw'r rhai yr ydym am eu helpu."
- DIWEDD -
Am fwy o fanylion am DEC Cymru Apêl Argyfwng Gaza cysylltwch ag Eurgain Haf, Prif Swyddog y Cyfryngau ar 029 20 803 260 neu 0790 993 7218. E.haf@savethechildren.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
1. Aelodau DEC Cymru yw Y Groes Goch Brydeinig, Cymorth Cristnogol, Help the Aged yng Nghymru, Oxfam Cymru, Achub y Plant a Tearfund.
2. Mae'r Weinyddiaeth Iechyd Palesteinaidd (The Palestinian Ministry of Heath (MOH) wedi cyhoeddi fod 1,314 o Balesteiniaid wedi eu lladd ers 27 Rhagfyr. Cofnodir hyn yn yr adroddiad 'Situation Report on the Humanitarian Situation in the Gaza Strip - No.14, 19 Ionawr 2009 (Office for the Coordination of Humanitarian Affairs).
3. Sut i roi arian:
Mae'n rhwydd! Ewch i'n gwefan http://www.dec.org.uk neu ffoniwch y DEC ar 0370 60 60 900 neu gallwch gyfrannu mewn unrhyw fanc ar y stryd fawr neu swyddfa bost. Rydym yn ymwybodol fod arian yn brin yn wyneb yr hinsawdd economaidd bresennol - ond mae'r cyfraniad lleiaf yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Gall y cyfraniad lleiaf i'r apêl fod o gymorth i gael bwyd, dwr, cysgod ac offer meddygol i'r bobl sydd eu hangen.
4. Criteria'r DEC ar gyfer lansio apêl yw:
Mae'n rhaid i'r argyfwng fod ar raddfa mor fawr fel bod angen galw am gymorth dyngarol rhyngwladol ar frys.