BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 28 Ion 2009 6:38 pm

Dyma'r apel oddi ar Youtube:



Gwarth ar y BBC. Danfonwch gwyn at y BBC am wrthod darlledu Apel Gaza, ac anogwch eich cysylltiadau i wneud yr un peth - http://www.bbc.co.uk/complaints/complaints_stage1.shtml

Gallwch gyfrannu i'r apel yma: https://www.donate.bt.com/bt_form_gaza.html

Dyma ddatganiad y DEC yn Gymraeg:

Apêl Argyfwng Gaza,
DEC Cymru


Elusennau Cymru yn lansio apêl ar y cyd i leddfu'r sefyllfa ddyngarol yn Gaza

Heddiw (22 Ionawr) mae rhai o brif elusennau Cymru yn apelio ar y cyhoedd i roi cymorth i'r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan y sefyllfa yn Gaza.

Wrth lansio Apêl Argyfwng Gaza, dywedodd Richard Laydon, Cadeirydd DEC Cymru fod y dinistr yn nhiriogaeth Gaza mor enfawr fel bod asiantaethau yng Nghymru wedi eu cymell i weithredu.

Mae dros 1,300 o Balestiniaid wedi eu lladd yn y gwrthryfel, a miloedd wedi eu hanafu, gan beri bod yr ysbytai lleol yn orlawn. Mae'r sefyllfa wedi gadael pobl yn ddigartref a nifer o blant heb fodd i gael addysg; mae pwer, bwyd a dwr glân yn annigonol ar gyfer anghenion y boblogaeth.

Meddai Richard Laydon: "Mae gan asiantaethau y DEC fandad dyngarol. Nid ydym yn bwriadau ymgeisio i ail-adeiladu Gaza - nid dyna yw ein rôl. Ond gyda chefnogaeth pobl Cymru gallwn gwrdd â'r anghenion yn y tymor-byr. Mae asiantaethau eisoes yn cyflenwi bwyd, meddyginiaethau a blancedi yn ogystal â dwr glân.

"Ond heb fwy o arian, mae cyfyngiadau i'r hyn allwn ni ei wneud. Ar gyfer y rheiny sy'n dioddef ac yn brwydro i oroesi, mae derbyn cymorth dyngarol ar frys yn gam allweddol tuag at wella ac ail-afael yn eu bywydau."

Pwysleisiodd Richard Laydon fod asiantaethau dyngarol DEC yn anllywodraethol. "Rydym yn gweithio ar sail yr angen dyngarol ac mae gwir angen cymorth yn Gaza heddiw. Mae darganfod yr atebion gwleidyddol yn rywbeth i eraill eu datrys, ond yr hyn sydd yn ofid calon i ni yw bod cymaint o bobl ddiniwed wedi eu heffeithio gan y sefyllfa - a nhw yw'r rhai yr ydym am eu helpu."

- DIWEDD -

Am fwy o fanylion am DEC Cymru Apêl Argyfwng Gaza cysylltwch ag Eurgain Haf, Prif Swyddog y Cyfryngau ar 029 20 803 260 neu 0790 993 7218. E.haf@savethechildren.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

1. Aelodau DEC Cymru yw Y Groes Goch Brydeinig, Cymorth Cristnogol, Help the Aged yng Nghymru, Oxfam Cymru, Achub y Plant a Tearfund.

2. Mae'r Weinyddiaeth Iechyd Palesteinaidd (The Palestinian Ministry of Heath (MOH) wedi cyhoeddi fod 1,314 o Balesteiniaid wedi eu lladd ers 27 Rhagfyr. Cofnodir hyn yn yr adroddiad 'Situation Report on the Humanitarian Situation in the Gaza Strip - No.14, 19 Ionawr 2009 (Office for the Coordination of Humanitarian Affairs).

3. Sut i roi arian:
Mae'n rhwydd! Ewch i'n gwefan http://www.dec.org.uk neu ffoniwch y DEC ar 0370 60 60 900 neu gallwch gyfrannu mewn unrhyw fanc ar y stryd fawr neu swyddfa bost. Rydym yn ymwybodol fod arian yn brin yn wyneb yr hinsawdd economaidd bresennol - ond mae'r cyfraniad lleiaf yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Gall y cyfraniad lleiaf i'r apêl fod o gymorth i gael bwyd, dwr, cysgod ac offer meddygol i'r bobl sydd eu hangen.

4. Criteria'r DEC ar gyfer lansio apêl yw:

Mae'n rhaid i'r argyfwng fod ar raddfa mor fawr fel bod angen galw am gymorth dyngarol rhyngwladol ar frys.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 28 Ion 2009 6:47 pm

Mae'r fersiwn Gymraeg o'r apel yn cael ei ddarlledu ar S4C heno hefyd o'r hyn dwi'n deall, ond ddim yn siwr faint o'r gloch.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 28 Ion 2009 7:12 pm

Danfonwch ebost at eich Aelod Seneddol hefyd yn galw arnynt i arwyddo'r EDM canlynol yn San Steffan - EDM 585 - DEC GAZA CRISIS APPEAL, ac yn eu hannog i gysylltu gyda'r BBC yn uniongyrchol i ddatgan ei siom.

Gallwch ddanfon ebost at eich AS trwy fynd yma http://www.theyworkforyou.com/mp/ , mewnddodi eich cod post a gwasgu 'Go', wedyn ar y dudalen nesaf pwyswch ar 'Send a message to [Enw eich AS]' . Mewnddodwch eich manylion personol ac yna ysgrifennu eich neges.

Cysylltwch gyda'ch Aelood Cynulliad hefyd yn eu hannog i gysylltu gyda'r BBC yn uniongyrchol i ddatgan ei siom. Rhowch eich cod post yn y blwch priodol yma - http://www.cynulliadcymru.org - ac wedyn ar y dudalen nesaf pwyswch ar enw'r Aelod Cynulliad (mae gan bawb 5, 1 etholaethol a 4 rhanbarthol) er mwyn dod o hyd i'r cyfeiriad ebost.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 28 Ion 2009 8:07 pm

Tony Benn ar Sianel Newyddion y BBC. Gwych!

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 28 Ion 2009 8:48 pm

Jesd i ddeud mod i wedi cwyno am hyn at y BBC. Mae grwp ar Wyneplyfr hefyd (wel, Facebook) - http://www.facebook.com/home.php#/group.php?gid=56906718133 ac http://www.facebook.com/home.php#/group.php?gid=49390741183. Wedi gweld yr apel ar ITV.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 28 Ion 2009 9:51 pm

Be di'r shit ma yn y fideo dwetha yn cyhuddo gwraig Mark Thompson a fynta o fod yn 'Zionists'? Wyt ti'n coelio hyn Hedd? Ma raid dy fod ti'n cytuno i ryw radda am bo ti di postio'r fideo. Hogla fel bwlshit propagandaidd gwrth-Iddewig i fi. Pa sail sydd i'r fath gyhuddiad spurious?

Dwi'n cytuno y dyla'r BBC fod wedi dangos yr apêl, am nad oedd na wir reswm call dros beidio a hithau'n bur amlwg y byddai'n cael ei dderbyn fel apêl trychineb yn hytrach nac unrhywbeth gwleidyddol gan drwch y boblogaeth gall, ond ma na ensyniadau peryg yn cael eu taflu o gwmpas am bobol. Fatha'r ddynas ar any questions yn cyhuddo top brass y BBC i gydo fod yn Zionists. Be ffwc? Prawf? Ma'n drewi o baranoia ac yn .

Ma na fwy na thwtsh o wrth-Semitiaeth yn yr awyr ar hyn o bryd, gyda'r ffycin nytars yn dod allan o'r woodwork yn honni bod na conspiracy Zionist a bod angen difa Israel, a rhaid i fi ddeud ma gyd bach yn hyll.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 28 Ion 2009 10:56 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Be di'r shit ma yn y fideo dwetha yn cyhuddo gwraig Mark Thompson a fynta o fod yn 'Zionists'? Wyt ti'n coelio hyn Hedd? Ma raid dy fod ti'n cytuno i ryw radda am bo ti di postio'r fideo. Hogla fel bwlshit propagandaidd gwrth-Iddewig i fi. Pa sail sydd i'r fath gyhuddiad spurious?

Dwi'n cytuno y dyla'r BBC fod wedi dangos yr apêl, am nad oedd na wir reswm call dros beidio a hithau'n bur amlwg y byddai'n cael ei dderbyn fel apêl trychineb yn hytrach nac unrhywbeth gwleidyddol gan drwch y boblogaeth gall, ond ma na ensyniadau peryg yn cael eu taflu o gwmpas am bobol. Fatha'r ddynas ar any questions yn cyhuddo top brass y BBC i gydo fod yn Zionists. Be ffwc? Prawf? Ma'n drewi o baranoia ac yn .

Ma na fwy na thwtsh o wrth-Semitiaeth yn yr awyr ar hyn o bryd, gyda'r ffycin nytars yn dod allan o'r woodwork yn honni bod na conspiracy Zionist a bod angen difa Israel, a rhaid i fi ddeud ma gyd bach yn hyll.


Cytuno'n llwyr gyda beth ti'n dweud. Wnes i ddim gweld y crap gwrth-Iddewig yn y fersiwn wnes i wylio. Dwi'n credu bod modd troi hwna mlan a bant. Jest tynnu sylw at ymddangosiad Tony Benn ar wasanaeth newyddion y BBC oeddwn i !! Wedi newid y fideo am un arall sydd ddim yn cynnwys y crap 'na nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 28 Ion 2009 11:11 pm

Gai eiliaf dy neges di nwdls. Yn bersonol mae BBC yn gwneud digon wrth adrodd beth sydd yn digwydd yn Gaza ac yn esbonio y rhyfel rhwng y ddwy ochr.

Beth sydd yn mater o fod yn Zionist eniwe?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan 7ennyn » Iau 29 Ion 2009 6:42 pm

Tydi gwrth-Seioniaeth ddim yr un peth a gwrth-Semitiaeth. Mae yna lot fawr o Iddewon yn wrth-Seioniaid ac mae yna ambell i hilgi gwrth-Semitig yn gefnogol o Seioniaeth! Peth diog a 'cheap' ydi cyhuddo rhywyn o fod yn wrth-Semitig am wrthwynebu Seioniaeth. Mae hynny yn yr un cae a'r ffyliaid hynny sydd yn cyhuddo ymgyrchwyr dros hawliau i siaradwyr Cymraeg o fod yn hiliol ac yn wrth-Seisnig.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: BBC yn gwrthod darlledu apel Gaza

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 29 Ion 2009 9:29 pm

Wel Saeth, ti'n iawn, ond yn fy mhrofiad i does na ddim lot (os dim) i'w hennill gan ddadlau'r pwynt "Zionist" "Semitic". Mae olwynion pawb hen wedi styc yn eu hynt eu hun ac yn hollol amharod am newid safbwynt.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron