Tudalen 1 o 1

Drylliau a'r Ddeddf

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 9:47 pm
gan Duw
Trychineb yn yr Almaen

Mae llwyth o erthyglau parthed trychineb diweddaraf drylliau mewn dwylo plant. Pryd ydy llywodraethau gweddill Ewrop a gwledydd eraill yn mynd i wahardd drylliau? Ai Prydain/Iwerddon yn unig sydd yn ystyried drylliau fel pethe peryglus?

Nid oes llawer o'r erthyglau yn son am beth ddiawl oedd y rhieni'n gwneud gyda'r holl arfau.
... handgun taken from his parents' mini-arsenal


Er bod y lobi arfau'n bwerus ac yn gallu dylanwadu ar lywodraethau, be sydd gan y person cyffredin yn erbyn cael gwared drylliau?

Re: Drylliau a'r Ddeddf

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 11:25 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wel, dwim yn sicr, Dduw, ond rwin credu fod cyfraith yr Almaen cyn daered ag ein cyfraith ni am ddrylliau. Mae'n bosib i rywun gael "mini-arsenal" yma hefyd - ac yn gyfreithlon. Beth am sgwennu at d' AauSE amdani?

Re: Drylliau a'r Ddeddf

PostioPostiwyd: Gwe 13 Maw 2009 12:33 am
gan Duw
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae'n bosib i rywun gael "mini-arsenal" yma hefyd


Oes e reli? Siom.

Re: Drylliau a'r Ddeddf

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 1:23 pm
gan Seonaidh/Sioni
Dyna be dwi'n credu - rhaid cael trwydded wrth gwrs.

Re: Drylliau a'r Ddeddf

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 1:59 am
gan Gwenci Ddrwg
Ia, mae gwahardd popeth di bod yn gweithio'n grêt fa'ma...not. Swnio'n reit dda ar bapur ond hollol bogus. Y rhan fwyaf o'r farwolaethau ydy gwaith y 'gangstas' sy'n prynu drylliau tu allan o'r black market heb feddwl am y ddeddf yn y lle cyntaf, felly amhosib i dargedu. Dan ni di bod yn talu crapload o arian cyhoeddus jest i boeni ffermwyr a helwyr.

Re: Drylliau a'r Ddeddf

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 3:27 pm
gan Diobaithyn †
Mae rhoi y poblogaeth cyffredin dyllau'n peryglus, ond mae'n rhagrithiol i lywodraethau gwahardd drylliau i'r poblogaeth gan ei ddefnyddio ei hun (yn ogystal a lawer pethau waeth). Er serch y ffaith ein bod yn fyw mewn democratiaeth, mae democratiaeth dal yn gormes i'r lleiafrif.

Dwi methu penderfynu beth sy'n cywir ar y mater hyn. Yn ymarferol, fel person pragmatig rwy'n credu ni ddyle'r poblogaeth cyffredin cael yr hawl i ddrylliau er fod y llywodraeth efo nhw - ac allan o dadl academaidd fyddwn yn erbyn ei wneud yn cyfreithiol dan ein llywodraeth presennol. Ond yn moesol, rwy'n dod i'r cwestiwn - A ydi o'n teg os mae llywodraeth democrataidd yn lladd lleiafrif? - yr ateb yn amlwg yn na. A felly, a ydi o'n teg a moesol fod gan llywodraeth (er ei fod efallai'n democrataidd) yr hawl i ddrylliau heb rhoi yr hawl hyn i'r pobl cyffredin? Na.

Fydd o'n llawer haws os roedd y llywodraeth yn dilyn cyfreithiau ei hun.

Re: Drylliau a'r Ddeddf

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 3:34 pm
gan Diobaithyn †
O, ac ar y fater o gyflafanau, dyma fideo drist werth wylio ar ymateb wael y cwmnïau mawr newyddion (tua 1:40).



Rwy'n caru Charlie Brooker.