Tudalen 1 o 4

Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 2:09 pm
gan Kez
Delwedd

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:03 pm
gan Orcloth
Be sy wedi digwydd i'r llun? Dio'm yn dangos i fyny ar fy'n i! :?

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:07 pm
gan Hogyn o Rachub
O'n i am ddweud 'run peth, ond ar y pryd do'n i methu bod yn boddyrd, er fy mod i'n boddyrd dweud nad oeddwn rwan.

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:12 pm
gan Kez
Ma nol nawr - ond wn i'm am bwy faint - blydi copyright; bane of my life!!

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:18 pm
gan Orcloth
Na, welais i mohono fo eto! Grrr!! :x

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:29 pm
gan Kez
Orcloth a ddywedodd:Na, welais i mohono fo eto! Grrr!! :x


Ma na !!!! (16.31pm).

Ti ddim yn colli dim byd cofia - mond rhyw joc fach odd e. Wi'n difaru bo fi wedi dychra'r edefyn nawr :ing:

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:34 pm
gan sian
Wedi mynd 'to.

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:40 pm
gan Kez
sian a ddywedodd:Wedi mynd 'to.


Efallai bo fe'n mynd a dod ond ma'n dal 'na 'da fi (16.41pm).

Compiwtars chi gyd yn fucked - ma'n siwr!

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:47 pm
gan Hedd Gwynfor
Kez achan :lol: , ti wedi rhoi dolen i lun yn dy gyfrif ebost Yahoo. Bydd neb arall yn gallu gweld hwna ond ti! Lawrlwytha'r ffeil i dy gyfrifiadur, a uwchlwytha fe fan hyn trwy'r teclyn 'Fynylwytho atodiad' sydd ar waelod y dudalen pan yn llunio neges, fel bod eraill yn gallu ei weld, neu ebostia fe ato fi i fi roi e lan.

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 3:58 pm
gan Kez
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Kez achan :lol: , ti wedi rhoi dolen i lun yn dy gyfrif ebost Yahoo. Bydd neb arall yn gallu gweld hwna ond ti! Lawrlwytha'r ffeil i dy gyfrifiadur, a uwchlwytha fe fan hyn trwy'r teclyn 'Fynylwytho atodiad' sydd ar waelod y dudalen pan yn llunio neges, fel bod eraill yn gallu ei weld, neu ebostia fe ato fi i fi roi e lan.


Fi wedi ela e-bost atot am bo fi ddim yn diall y gweddil wetasd di - fel ti'n gwpod wi'm yn diall compiwtars yn dda iawn :wps: