Tudalen 3 o 4

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 10:07 am
gan Mwnci Banana Brown
Dwi'n disgwyl mlan i weld prise bacwn yn cwmpo!

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 2:21 pm
gan Kez
Beth yw hoff deip o fiwsig y mochyn?

Rhoch a rowlio

(Bu imi ennill pensil yn Eisteddfod Capel y Groes am y joc 'na flynydda nol erbyn hyn, ond fi heb ennill dim byd odd ar 'ny :( )

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 2:42 pm
gan Kez
Ay - ma'r awen yn dod - rwyf newydd feddwl am un arall:

Beth yw hoff deip o fiwsig y gwningen?

Hip hop.

:rolio:

Gwd nawr

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 2:44 pm
gan Macsen
Why did the Mexican give his wife a pig? Tequila.

Soch!

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 2:54 pm
gan dawncyfarwydd
Pig flu?

O'n i'n meddwl bod hynny'n amhosib.

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 2:57 pm
gan Kez
Macsen a ddywedodd:Why did the Mexican give his wife a pig? Tequila.

Soch!


Soch chi'n meddwl bo 'na'n joc 'mocho'. Ma digon o 'machismo' yn y byd fel ag y mae :D

Fi ar 'run' nawr:

Beth yw hoff deip o fiwsig y fuwch?

Mwtown

(well ifi seino off nawr!!)

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 3:27 pm
gan Orcloth
P'run yw hoff ddawns y llwynog?
Foxtrot!

Ia, dwi'n gwybod ei bod hi'n rybish! :winc:

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 3:36 pm
gan Macsen
Pa un yw hoff fforwm llygoden? Maes-e!

(mice-y, geddit? hmmm...)

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 3:44 pm
gan Kez
Macsen a ddywedodd:Pa un yw hoff fforwm llygoden? Maes-e!

(mice-y, geddit? hmmm...)


Pa un yw hoff gylchrawn y cwcw?

Gogwg!

(cwcw -y gog? geddit? hmmm...)

Re: Ffliw'r Mochyn

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 4:00 pm
gan Macsen
Kez a ddywedodd:Pa un yw hoff gylchrawn y cwcw?

Delwedd