Tudalen 1 o 1

Catalanwyr yn edrych ar esiampl Cymru

PostioPostiwyd: Llun 11 Mai 2009 1:10 pm
gan HuwJones
Mae dadl enfawr yn Catalunya ynglyn a'r diffig hawl i roi "CAT" ar blatiau rhifau ceir. Fel yn yr Unol Daleithiau mae'r holl gwestiwn o symbolau a baneri yn beth ddifrifol go iawn.

Mae cyfraith Sbaen yn gwneud hi'n ofynnol i ddangos "ES" am España ar balatiau ceir, sydd yn mynd lawr fel rhech mewn sbês-siwt yn Gwlad y Basg a Catalunya. Roedd pobl arfer rhoi sticeri eu hun dros yr "ES" nes i lywodraeth Madrid dod a dirywion trymion rhai blynyddoedd yn ôl. Aeth heddlu Sbaen ati o ddifrif i gosbi pobl oedd yn torri'r gyfraith yma, mae hyd yn oed aelodau seneddol o bleidiau Catalaneg wedi cael eu dirwyo am ddangos CAT ar blatiau eu ceir.

Mae'r dadl wedi codi unwaith eto yn y Generalitat (Cynulliad Catalunya) gyda sylw i'r ffaith bod "CYM" newydd ei wneud yn cyfreithlon ar blatiau yn fan hyn. Dyma'r hanes ar VilaWeb - fersiwn Catalunya o Maes-E

El govern britànic autoritza Gal·les a incorporar la bandera a la matrícula (Llywodraeth Prydain yn caniatau Cymru cynnwys y faner ar blatiau ceir)
http://www.vilaweb.cat/www/noticia?p_idcmp=3581675

Delwedd