gan Josgin » Sad 06 Meh 2009 8:09 pm
Yr oeddwn yn sylwi fod edefyn arall yn trafod gwleidyddiaeth Cernyw. Bum yn Llydaw sawl tro, ond cyfyngais fy hun i beldroed a'r traethau tra i mi fod yno bob tro. Ydi rhywun yn gallu egluro'n union i mi beth yw natur mudiadau gwleidyddol cenedlaetholgar Llydaw , oggdd. Yr wyf yn ymwybodol fod llawer ohonynt, ond a ydynt yn cyfateb mewn unrhyw ffordd i'n mudiadau ni , ac a yw iaith a gwleidyddiaeth cenedlaetholgar wedi ei blethu yn yr un ffordd ac mae o yma ?