Tudalen 1 o 1

Gwleidyddiaeth Llydaw

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 8:09 pm
gan Josgin
Yr oeddwn yn sylwi fod edefyn arall yn trafod gwleidyddiaeth Cernyw. Bum yn Llydaw sawl tro, ond cyfyngais fy hun i beldroed a'r traethau tra i mi fod yno bob tro. Ydi rhywun yn gallu egluro'n union i mi beth yw natur mudiadau gwleidyddol cenedlaetholgar Llydaw , oggdd. Yr wyf yn ymwybodol fod llawer ohonynt, ond a ydynt yn cyfateb mewn unrhyw ffordd i'n mudiadau ni , ac a yw iaith a gwleidyddiaeth cenedlaetholgar wedi ei blethu yn yr un ffordd ac mae o yma ?

Re: Gwleidyddiaeth Llydaw

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 1:42 am
gan Gwenci Ddrwg
Dwi'm yn gwybod llawer am yr holl beth yn bersonol, ond does gan Lydaw ddim yr un fath o hawliau gwleidyddol รข Chymru (dim senedd annibynnol chwaith), diolch i ganoliad eithafol Ffrainc. Felly hyd yn oed 'sai na cenedlaetholwyr 'sai'r job yn uffernol o anodd heb broses fel yr un gynnon chi.