Gwleidyddiaeth Llydaw

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwleidyddiaeth Llydaw

Postiogan Josgin » Sad 06 Meh 2009 8:09 pm

Yr oeddwn yn sylwi fod edefyn arall yn trafod gwleidyddiaeth Cernyw. Bum yn Llydaw sawl tro, ond cyfyngais fy hun i beldroed a'r traethau tra i mi fod yno bob tro. Ydi rhywun yn gallu egluro'n union i mi beth yw natur mudiadau gwleidyddol cenedlaetholgar Llydaw , oggdd. Yr wyf yn ymwybodol fod llawer ohonynt, ond a ydynt yn cyfateb mewn unrhyw ffordd i'n mudiadau ni , ac a yw iaith a gwleidyddiaeth cenedlaetholgar wedi ei blethu yn yr un ffordd ac mae o yma ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gwleidyddiaeth Llydaw

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 10 Gor 2009 1:42 am

Dwi'm yn gwybod llawer am yr holl beth yn bersonol, ond does gan Lydaw ddim yr un fath o hawliau gwleidyddol â Chymru (dim senedd annibynnol chwaith), diolch i ganoliad eithafol Ffrainc. Felly hyd yn oed 'sai na cenedlaetholwyr 'sai'r job yn uffernol o anodd heb broses fel yr un gynnon chi.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron