Catalunya- Pleidleisio dros annibyniaeth

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Catalunya- Pleidleisio dros annibyniaeth

Postiogan HuwJones » Llun 14 Medi 2009 8:09 pm

Mae tref Arenys de Munt yn Catalunya wedi cynnal refferendwm gyda dros 90% o'r pleidleisiau o blaid annibyniaeth i'r wlad o Sbaen

Mae llywodraeth Madrid wedi trio defnyddio'r uchel lys i'w atal rhag cael ei gynnal, tacteg a wnaeth dro'n embaras i Madrid pan gyhoeddwyd bod prif farnwr yr achos yn gefnogwr i'r Falange - hen blaid y ffasgwyr Sbaeneg.

Wnaeth dros 40% o’r dref bwrw eu pleidlais (mwy nag etholiadau 'swyddogol' diweddar) ac mae'n debyg bydd trefi eraill ar draws Catalunya hefyd yn cynnal refferendwm eu hun.

Y hanes yn Saesneg
http://www.euronews.net/2009/09/14/catalan-town-votes-for-independence/
http://www.barcelonareporter.com/index.php?/news/comments/spain_catalan_town_arenys_de_munt_votes_for_independence/

...a darn o ffilm o'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi. Mae'r dorf yn canu:
"Dignitat i independència" (urddas ac anibynniaeth)
"Aqui comença la independència" (Yma mae anibynniaeth yn dechrau)
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron