Tudalen 1 o 1

Ataliwch Blair

PostioPostiwyd: Llun 12 Hyd 2009 9:51 am
gan Cardi Bach
http://stopblair.eu/indexcy.html

Deiseb i ddangos eich gwrthwynebiad i Blair yn cael nominyddiaeth llywyddiaeth ewrop.

Rydym ni, dinasyddion Ewropeaidd o bob gwlad ac o bob lliw gwleidyddol, yn dymuno dangos ein gwrthwynebiad llwyr i enwebiad Tony Blair i Lywyddiaeth y Cyngor Ewropeaidd.

Mae Cytundeb Lisbon yn caniatáu’r swydd newydd o Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, i’w ethol gan y Cyngor am fandad, y gellir ei adnewyddu ond unwaith, o dwy flynedd a hanner. O dan amodau’r Cytundeb: “Bydd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd yn ei gadeirio a hyrwyddo ei waith” [“The President of the European Council shall chair it and drive forward its work”] a “bydd yn sicrhau darpariaeth a pharhad gwaith y Cyngor Ewropeaidd” [“shall ensure the preparation and continuity of the work of the European Council”]. Ymhellach, “Bydd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, ar ei lefel ac yn y cymhwyster hwnnw, sicrhau cynrychiolaeth allanol yr Undeb ar faterion sy’n ymwneud â’i pholisi tramor a dirgelwch cyffredin” [“The President of the European Council shall, at his level and in that capacity, ensure the external representation of the Union on issues concerning its common foreign and security policy”]. ¹.

Bydd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, felly, rôl allweddol mewn penderfynu polisïau’r Undeb Ewropeaidd a’i pherthynas â gweddill y byd. Bydd gan lywyddiaeth gyntaf y Cyngor bwysau symbolaidd sylweddol i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, ac yn effeithio’n fawr ar ddelwedd yr Undeb yng ngweddill y byd. Yn y cyd-destun hwn, rydym ni’n credu ei bod yn angenrheidiol bod y llywydd cyntaf yn ymgorffori ysbryd a gwerthoedd y prosiect Ewropeaidd.

Ers tipyn o amser nawr, mae adroddiadau newyddion wedi datgelu dymuniad, mewn rhai cylchoedd, i weld dyrchafiad Tony Blair fel Llywydd cyntaf y Cyngor Ewropeaidd. Byddai’r dyrchafiad hwn, pe bai’n digwydd, yn hollol groes i’r gwerthoedd a arddelir gan y prosiect Ewropeaidd.

Yn groes i gyfraith ryngwladol, ymroes Tony Blair ei wlad i ryfel yn Irác yr oedd mwyafrif llethol dinasyddion Ewrop yn ei erbyn. Mae cannoedd o filoedd o bobl wedi’u lladd neu’u hanafu yn y rhyfel hwn, a miliynau o ffoaduriaid wedi’u gyrru o’u cartrefi. Mae wedi bod yn ffactor pwysig yn ansefydlogi’r Dwyrain Canol, ac mae wedi gwaethygu diogelwch byd-eang. Er mwyn arwain ei wlad i ryfel, defnyddiodd Mr Blair dystiolaeth wedi’i ffugio a gwybodaeth wedi’i haddasu’n systematig. Byddai ei rôl yn y rhyfel yn Irác yn pwyso’n drwm ar ddelwedd yr Undeb yn y byd, pe enwid yn llywydd arni.
Mae’r camau a gymerwyd gan lywodraeth Tony Blair, a’i ran gyda llywodraeth Bush yn y gyfundrefn anghyfreithlon o ‘extraordinary renditions’ wedi arwain at ostyngiad heb ei debyg mewn hawliau sifil. Mae hyn yn groes i dermau y Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy’n rhan annatod o Gytundeb Lisbon.

Mae’r Siartr Ewropeaidd o Hawliau Sylfaenol yn ffurfioli gwerthoedd cynhenid y prosiect Ewropeaidd ac mae’n un o hoelion wyth y cytundeb newydd. Ymladdodd Tony Blair yn erbyn ei chynnwys yng Nghytundeb Lisbon, ac yn y pen draw llwyddodd sicrhau esgusodiad ar gyfer y DU.

Yn hytrach na hyrwyddo integreiddio Ewropeaidd, gosododd cyn Brif Weinidog Prydain gyfres o ‘linellau coch’ yn ystod trafodaethau Lisbon², gyda’r bwriad o rwystro unrhyw gynnydd mewn materion cymdeithasol a chysoni trethi, yn ogystal â pholisi amddiffyn a thramor cyffredin.

Ymhellach, ymddengys yn annychmygol y gallai cyn bennaeth llywodraeth a gadwai’i wlad allan o ddwy brif elfen adeiledd Ewrop (ardal Schengen o symud rhydd ac ardal y Ewro) fod yn Llywydd cyntaf ar y Cyngor Ewropeaidd.

O gofio mai un o flaenoriaethau sefydliadau Ewropeaidd yw ailgysylltu â’u dinasyddion, credwn ei bod yn angenrheidiol bod Llywydd y Cyngor Ewropeaidd yn rhywun y gall mwyafrif y dinasyddion ymddiried ynddo, yn hytrach nag un a wrthodwyd gan fwyafrif³. Felly, rydym yn datgan ein bod yn hollol yn erbyn yr enwebiad hwn.




1.Treaty of Lisbon, Article 1, point 16, inserting Article 9 B into the Treaty on European Union, points 5 and 6 (2007/C 306/17, 18) ↑
2.Blair sets out EU treaty demands, BBC, June 2007 ↑
3.Table 6 in FT/Harris poll, June 2007 ↑

Re: Ataliwch Blair

PostioPostiwyd: Llun 12 Hyd 2009 11:42 am
gan huwwaters
Cardi Bach a ddywedodd:http://stopblair.eu/indexcy.html

Deiseb i ddangos eich gwrthwynebiad i Blair yn cael nominyddiaeth llywyddiaeth ewrop.


Enwebiad? Byswn i ddim fel arfer yn gneud hwn, ond dwi'n teimlo bod rhaid yn yr achos yma.

Re: Ataliwch Blair

PostioPostiwyd: Llun 12 Hyd 2009 2:15 pm
gan Gowpi
Ma grwp weplyfr i gael i wrthwynebu ein enweniad hefyd gyda dolen i lythyru Sarkozy a Merkel hefyd...

Re: Ataliwch Blair

PostioPostiwyd: Llun 12 Hyd 2009 2:47 pm
gan Cardi Bach
huwwaters a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:http://stopblair.eu/indexcy.html

Deiseb i ddangos eich gwrthwynebiad i Blair yn cael nominyddiaeth llywyddiaeth ewrop.


Enwebiad? Byswn i ddim fel arfer yn gneud hwn, ond dwi'n teimlo bod rhaid yn yr achos yma.


wrth gwrs...wpsi pwpsi...Lladin yn drysu dyn...

Re: Ataliwch Blair

PostioPostiwyd: Llun 12 Hyd 2009 3:52 pm
gan Sioni Size
Shot Cardi. Gobeithio fod nhw'n caniatau rhegi ysgafn ar y sylwadau

Re: Ataliwch Blair

PostioPostiwyd: Iau 15 Hyd 2009 6:54 pm
gan Seonaidh/Sioni
Rydw i'n pryderu braidd am bethau fel hyn. I ba raddau, dywed, byddai cyhoeddi ein gwrthwynebiad at hyn yn cael yr effaith o roi hwb i'r dynos yn ei ymgais? Pwy ddywedodd "there's no such thing as bad publicity"?

Gwell, efallai, ceisio sicrhau fod llywydd Ewrop yn cael ei d[d]ewis o blith yr ASEau.