Tudalen 1 o 2

Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2010 6:43 pm
gan Chickenfoot
Beth yw barn pawb am gais am ryddyd Rhugwr Sir Efrog?

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2010 11:25 pm
gan Duw
Dwi ddim yn meddwl bydde unrhyw un yn ei feddwl reit yn cytuno gyda hwn. Dwi ddim yn ffansio ei siansys os odd e'n cal dod mas. Felly, posib y peth gore bydde gweld y diawl yn cael ei ryddhau a gadel teuluoedd y merched ei racso.

Beth yw'r cost i'r wlad i'w gadw dan glo? A fydde'n costio mwy i'w ryddhau a chadw ei adnabyddiaeth yn gyfrinach?

Mae merched wedi talu gyda'u bywyde ac mae eu teuluoedd dal yn talu i'w gadw'n ddiogel. Mae'n drewi.

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Iau 04 Maw 2010 5:51 am
gan dewi_o
Dim gobaith. Carchar am oes i'r diawl.

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Sad 06 Maw 2010 4:08 pm
gan Arthur
Duw a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl bydde unrhyw un yn ei feddwl reit yn cytuno gyda hwn. Dwi ddim yn ffansio ei siansys os odd e'n cal dod mas. Felly, posib y peth gore bydde gweld y diawl yn cael ei ryddhau a gadel teuluoedd y merched ei racso.

Beth yw'r cost i'r wlad i'w gadw dan glo? A fydde'n costio mwy i'w ryddhau a chadw ei adnabyddiaeth yn gyfrinach?

Mae merched wedi talu gyda'u bywyde ac mae eu teuluoedd dal yn talu i'w gadw'n ddiogel. Mae'n drewi.


Wyt ti di'w gyfarfod o?Ella fod o'n hen foi iawn!l.o.l

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Sad 06 Maw 2010 4:17 pm
gan Arthur
Duw a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl bydde unrhyw un yn ei feddwl reit yn cytuno gyda hwn. Dwi ddim yn ffansio ei siansys os odd e'n cal dod mas. Felly, posib y peth gore bydde gweld y diawl yn cael ei ryddhau a gadel teuluoedd y merched ei racso.

Beth yw'r cost i'r wlad i'w gadw dan glo? A fydde'n costio mwy i'w ryddhau a chadw ei adnabyddiaeth yn gyfrinach?

Mae merched wedi talu gyda'u bywyde ac mae eu teuluoedd dal yn talu i'w gadw'n ddiogel. Mae'n drewi.



Ydy barnu pobl yn beth iach?Mae gan pawb eu gwendidau mate.

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Sad 06 Maw 2010 5:27 pm
gan Orcloth
Sgin ti RHYW syniad be naeth o i ferched???

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Sad 06 Maw 2010 9:00 pm
gan Chickenfoot
Ond i fod yn deg, Orcloth... :winc:

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Sad 06 Maw 2010 9:07 pm
gan Chickenfoot
Chickenfoot a ddywedodd:Ond i fod yn deg, Orcloth,... :winc:

"You'll never put me in the slammer!"
O'r hyn dw i'n gwybod am yr achos, 'doedd yr hen Pete ddim yn wallgof ar adeg y llofruddiaethau, felly ni ddylid ei ryddhau.

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Sul 07 Maw 2010 7:19 pm
gan Duw
Arthur a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl bydde unrhyw un yn ei feddwl reit yn cytuno gyda hwn. Dwi ddim yn ffansio ei siansys os odd e'n cal dod mas. Felly, posib y peth gore bydde gweld y diawl yn cael ei ryddhau a gadel teuluoedd y merched ei racso.

Beth yw'r cost i'r wlad i'w gadw dan glo? A fydde'n costio mwy i'w ryddhau a chadw ei adnabyddiaeth yn gyfrinach?

Mae merched wedi talu gyda'u bywyde ac mae eu teuluoedd dal yn talu i'w gadw'n ddiogel. Mae'n drewi.



Ydy barnu pobl yn beth iach?Mae gan pawb eu gwendidau mate.


Ro'n i'n meddwl am beidio รข chnoi, ond Arthur bach, wrth drio bod yn ddoniol, rwyt wedi gwneud twlsyn o d'hunan. Cafodd ei farnu gan reithgor nid minne. Gwendid seicopathig - digon i'w gadw dan glo. Mate.

Re: Peter Sutcliffe

PostioPostiwyd: Llun 08 Maw 2010 5:23 pm
gan Chickenfoot
Beth sydd wedi synnu fi am Sutcliffe erioed yw'r nifer o lythyrau'n mae o wedi derbyn gan ferched yn ystod ei amser yn Broadmoor. Tasa'n cael ei ryddhau, dw i'm yn siwr os fyddai'r merched yma'n ddiogel. Mae'r boi yn attynnu nyttars - jest fel ei wraig yn ol bob son.