ceribethlem a ddywedodd:Nanog a ddywedodd:Wyt ti o ddiffri? Neu wyt ti wedi claddu dy ben mewn tywod?
Fi o ddifri. Mae Banc Lloegr yn gallu "printio" mwy o arian mewn modd llythrennol wrth reswm, ond sgil-effaith hyn fydd chwyddiant. Bydd gwerth yr arian yn mynd lawr, felly byddwn ni ddim mewn sefyllfa gwell nac yr oeddem o'r blaen.
Rwyt ti wedi clywed am y term 'quantitative easing'? Dyna dy greu arian allan o ddim. Dim hyd yn oed 'printio'. Hawddach ei wneud ar gyfrifiadur mewn modd electroneg. Wyt ti wedi sylwi fod dy arian yn prynnu llai yn awr nag oedd a 2 i 3 mlynedd yn ol? Yn enwedig os ei di ar dy wyliau. Ar ddiwedd 2007 allet wedi cael dros 2 dollar i'r bunt. Nawr mi gei di 1.5. Yr un peth a'r Ewro. Rwyt ti hefyd wedi clywed fod egni yn mynd yn ddrytach.....trenau.....bwyd......ac yn y blaen? Mae unrhyw un sydd wedi bod yn ofalus gya'i arian yn dioddef. Cyfraddau llog hanner y cant. Ac ar ben hynny, ffordd yr awdurdodau allan o'r twll mae nhw wedi gwneud yw ceisio bwyta i mewn i'w dyledion drwy greu chwyddiant. Da iawn os wyt ti a dyledion mawr.....fel y llywodraeth ond dim cystal i'r rhai sydd wedi torri'r got yn ol y brethyn.
Mae llywodraethau yn hoff iawn o greu chwyddiant. Mae'n ffordd gudd iddynt ddwyn arian wrth y bobl heb iddynt sylweddoli. Rwyt ti'n enghraifft berffaith mae'n amlwg. Ond y tro yma, mae nhw wedi gwneud shwt gawlach wrth chwythu swigen ar ol swigen (ee prisiau tai) mae'n rhaid iddynt yn awr mynd i mewn i
overdrive i greu arian newydd er mwyn osgoi beth mae Iwerddon yn mynd trwyddo......ac y gwnaeth Groeg flasu....ac y bydd Portiwgal yn mynd trwyddo a Sbaen ac eraill. Efallai na fyddwn i'n cael yr un profiad ag Iwerddon, ond ni fydd pethau'n hawdd i filiynau o bobl ym Mhrydain ychwaith yn y dyfodol. Gwell byddai torri'r got yn ol y brethyn yn y lle cyntaf a cheisio llunio polisiau i gael pobl i greu pethau yn lle miliwnyddion yn creu dim ond yn berchen ar ddim byd mwy na brics a mortar. Ynghlwm ag hyn i gyd mae'r banciau a'i benthyg ddi-reolaeth ac yna'r
bail-outs er mwyn achub eu crwyn.
"We're all in this together" ON
Diddorol y darllen y llinyn canlynol o Ebrill 2007:
viewtopic.php?f=12&t=22467