Iwerddon

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Iwerddon

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 27 Tach 2010 5:30 pm

Be di barn pobl am Iwerddon ar hyn o bryd? Er enghraifft rol y bancwyr, bwrlwm yr eiddo (tai/ystadau gweigion), y cytundeb rhwng Fianna Fail a'r Gwyrddion (? cynhaliaeth), llwyddiant Ni'n Hunain yn Nonegal, bailout yr UE ayyb?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Iwerddon

Postiogan Josgin » Sad 27 Tach 2010 9:57 pm

Dim y math o sefyllfa mae rhywun yn dymuno rhyw 6 mis cyn refferendwm am bwerau pellach. Llanast ofnadwy. Rhaid i'r Gwyddelod gymeryd eu ffisig - mi wnaeth pawb fwynhau fferins yr EU am ddigon hir heb gwyno.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Iwerddon

Postiogan Nanog » Sul 28 Tach 2010 1:27 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Be di barn pobl am Iwerddon ar hyn o bryd?

Mae Iwerddon yn 'fcuk'd'. Mae angen iddynt dynnu mas o'r Euro a mynd yn fethdwlwyr......neu aros yn yr Euro a bod yn gaethweision i'r banciau am flynyddoedd.

Ond wedi dweud hynny, mae'r rhan fwyaf o'r byd gorllewinol mewn picil gan gynnwys y DU. Gwleidyddion unwaith eto yn gwneud addewidion a benthyg yn helaeth o'r dyfodol ar gyfer y presennol. Mae nhw wedi gwneud job dda y tro 'ma.

A ddylai Iwerddon, sy'n boddi mewn mor o ddyled, fenthyg rhagor gan yr UE, IMF......?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Iwerddon

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 03 Rhag 2010 10:48 pm

"gan gynnwys y DU" - a dyma ni, heb Banc yr Euro tu hwnt i ni er mwyn bailout ayyb. Ydyn ni'n byw heibio i'n cyrraedd?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Iwerddon

Postiogan Nanog » Sad 04 Rhag 2010 7:34 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:"gan gynnwys y DU" - a dyma ni, heb Banc yr Euro tu hwnt i ni er mwyn bailout ayyb. Ydyn ni'n byw heibio i'n cyrraedd?

Rwy'n meddwl dy fod ti'n dweud ein bod ni fel 'Brits' mewn fwy o bicil o achos nad yw Banc Canolog Ewrop y tu cefn i ni. Ydw i'n iawn? Mewn ffordd, nac ydym achos mae Banc Lloegr yn gallu creu arian allan o ddim. Nid yw hyn yn bosibl i'r Gwyddelod. Ond peidied neb a meddwl fy mod i o'r farn fod pob peth yn iawn arnom. Achos nid yw nhw. Mi fyddwn i''n 'talu' mewn ffyrdd arall.:(
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Iwerddon

Postiogan ceribethlem » Sul 05 Rhag 2010 8:40 pm

Nanog a ddywedodd:

Fel bydd hwnna'n gweithio te?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Iwerddon

Postiogan Nanog » Llun 06 Rhag 2010 12:05 pm

ceribethlem a ddywedodd:

Wyt ti o ddiffri? Neu wyt ti wedi claddu dy ben mewn tywod? :o
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Iwerddon

Postiogan ceribethlem » Llun 06 Rhag 2010 6:01 pm

Nanog a ddywedodd:Wyt ti o ddiffri? Neu wyt ti wedi claddu dy ben mewn tywod? :o

Fi o ddifri. Mae Banc Lloegr yn gallu "printio" mwy o arian mewn modd llythrennol wrth reswm, ond sgil-effaith hyn fydd chwyddiant. Bydd gwerth yr arian yn mynd lawr, felly byddwn ni ddim mewn sefyllfa gwell nac yr oeddem o'r blaen.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Iwerddon

Postiogan Nanog » Llun 06 Rhag 2010 8:15 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Nanog a ddywedodd:Wyt ti o ddiffri? Neu wyt ti wedi claddu dy ben mewn tywod? :o

Fi o ddifri. Mae Banc Lloegr yn gallu "printio" mwy o arian mewn modd llythrennol wrth reswm, ond sgil-effaith hyn fydd chwyddiant. Bydd gwerth yr arian yn mynd lawr, felly byddwn ni ddim mewn sefyllfa gwell nac yr oeddem o'r blaen.

Rwyt ti wedi clywed am y term 'quantitative easing'? Dyna dy greu arian allan o ddim. Dim hyd yn oed 'printio'. Hawddach ei wneud ar gyfrifiadur mewn modd electroneg. Wyt ti wedi sylwi fod dy arian yn prynnu llai yn awr nag oedd a 2 i 3 mlynedd yn ol? Yn enwedig os ei di ar dy wyliau. Ar ddiwedd 2007 allet wedi cael dros 2 dollar i'r bunt. Nawr mi gei di 1.5. Yr un peth a'r Ewro. Rwyt ti hefyd wedi clywed fod egni yn mynd yn ddrytach.....trenau.....bwyd......ac yn y blaen? Mae unrhyw un sydd wedi bod yn ofalus gya'i arian yn dioddef. Cyfraddau llog hanner y cant. Ac ar ben hynny, ffordd yr awdurdodau allan o'r twll mae nhw wedi gwneud yw ceisio bwyta i mewn i'w dyledion drwy greu chwyddiant. Da iawn os wyt ti a dyledion mawr.....fel y llywodraeth ond dim cystal i'r rhai sydd wedi torri'r got yn ol y brethyn.

Mae llywodraethau yn hoff iawn o greu chwyddiant. Mae'n ffordd gudd iddynt ddwyn arian wrth y bobl heb iddynt sylweddoli. Rwyt ti'n enghraifft berffaith mae'n amlwg. Ond y tro yma, mae nhw wedi gwneud shwt gawlach wrth chwythu swigen ar ol swigen (ee prisiau tai) mae'n rhaid iddynt yn awr mynd i mewn i overdrive i greu arian newydd er mwyn osgoi beth mae Iwerddon yn mynd trwyddo......ac y gwnaeth Groeg flasu....ac y bydd Portiwgal yn mynd trwyddo a Sbaen ac eraill. Efallai na fyddwn i'n cael yr un profiad ag Iwerddon, ond ni fydd pethau'n hawdd i filiynau o bobl ym Mhrydain ychwaith yn y dyfodol. Gwell byddai torri'r got yn ol y brethyn yn y lle cyntaf a cheisio llunio polisiau i gael pobl i greu pethau yn lle miliwnyddion yn creu dim ond yn berchen ar ddim byd mwy na brics a mortar. Ynghlwm ag hyn i gyd mae'r banciau a'i benthyg ddi-reolaeth ac yna'r bail-outs er mwyn achub eu crwyn. "We're all in this together" :lol:

ON
Diddorol y darllen y llinyn canlynol o Ebrill 2007:

viewtopic.php?f=12&t=22467
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Iwerddon

Postiogan Josgin » Llun 06 Rhag 2010 10:05 pm

Diddorol iawn -llongyfarchiadau ar fod mor graff , Nanog.
Tybed a yw 'Sblosh' gyda cyfraniad pellach i'r edefyn hwn, ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai