Mae pobl yn parhau i goelio popeth mae nhw'n glywed am Syria waeth faint o gelwydd caiff ei ddiosg.
Roedd adroddiad o Syria ar ITN ddydd gwener (methu ei ddarganfod ar y we ere chwilio) yn dangos merch oedd yn llwgu oherwydd fod bwyd ddim yn medru cyrraedd. Bai llywodraeth Syria yn ol yr adroddiad (fel pob adroddiad).
Roedd y doctor oedd yn ffilmio hyn oll gyda'r newyddiadurwr honedig yn aros yn ddi-enw a di-wyneb. Wedi munudau yn dangos y ferch mewn gwewyr mi aeth y doctor am dro a rhedeg o adeilad i adeilad i ddangos pa mor beryg oedd hi'n Homs.
Roedd y doctor wedi bod yn edrych ar ol y ferch am fisoedd yn ol yr adroddiad.
Un cwestiwn amlwg - sut oedd y doctor yn ddigon egniol i redeg o adeilad i adeilad ond roedd y ferch a edrychai ar ei ol yn llwgu i farwolaeth? Roedd yn amlwg yn bwyta digon i fedru rhedeg pan fynnai. Pam na rannodd ychydig o'i fwyd efo hi?
Mae adroddiadau'r newyddion Saenseg i gyd yn taenu'r un neges a'r un neges yn unig - bai Assad ydi popeth.
Dyma adroddiadau sy'n dweud y gwrthwyneb i'r hyn da ni'n glywed yn feunyddiol ar deledu a phapurau Lloegr.
Rhai prin o'r cyfryngau `mainstream' Saesneg (os gellid galw'r New Statesman yn mainstream):
Dyma ddehongliad da o'r pwysigrwydd o gofio am agendas wrth wrando ar y newyddion o Syria, a'n gyffredinol.