Sut mae diffinio 'sosialaeth' a 'chyfalafiaeth'?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Owain Llwyd » Iau 06 Tach 2003 12:23 pm

Boris a ddywedodd:
Chris Castle a ddywedodd:DEMOCRATIAETH - Ewyllys y mwyafrif
SOSIALIAETH - Ewyllys y mwyafrif

Cytuno efo pwynt un, ond mater o farn dwi'n credu ydi pwynt dau.

Y farn arferol ydi bod y Deyrnas Unedig yn ddemocratiaeth o ryw fath neu'i gilydd. Ond hyd y gwela i, o 1945 ymlaen, dydi'r un blaid lywodraethol wedi cael ei hethol efo mwyafrif o'r pleidleisiau, felly sut mae cytuno efo pwynt un? A dyna ydi'r ongl symlaf un.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 12:36 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:

Dwi'n credu fod llywodraeth Geidwadol 1955 wedi cael mwyafrif y bleidlais.

Serch hynny, tydi hyn ddim yn newid dilysrwydd dy bwynt, ond mae angen i ti ehangu os am drafodaeth. Dwi'n meddwl mae diffinio democratiaeth oedd Chris, ac cytuno efo'r diffiniad oeddwn i, doess yna ddim trafodaeth ymghylch 'democratiaeth Prydain.

Wedi'r cyfan, mae dy ddadl di yn debyg i ddadl Ivor (i hate all things Welsh) Wynne Jones yn y Daily Post sy'n dal i ddweud na gafwyd y Cynulliad trwy ddulliau democrataidd gan mai dim ond 25.3% o'r boblogaeth ddaru fwrw pleidlais dros gael elfen o ddatganoli yma yng Nghymru. Ai dyna 'di dybwynt Owain :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Garnet Bowen » Iau 06 Tach 2003 12:41 pm

Chris Castle a ddywedodd:
Ond yn hytrach na Reffari, dwi'n gweld rôl delfrydol y llywodraeth fel Cyngor sy'n rhedeg y maes chwarae (amgylchedd) yn piau'r stafell newid dillad a'r system draeniau/trydan/nwy (infrastructure), yn rhedeg yr ysgolion a clybiau ienctid sy'n dysgu'r gêm i'r plant, ac yn cyflogi'r reffaris er mwyn sicrhau gall pawb yn chwarae.

Cytuno. Er fod hyn yn cymlethu'r gymhariaeth braidd. Os ddarlleni di fy neges i eto, dwi'n rhannu cyfrifoldeb llywodraeth yn ddau. Cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus (sef y stwff ti'n gyfeirio ato fo uchod) a wedyn y busnas o fod yn reffari ar yr economi.

Cardi Bach a ddywedodd:fi o'r farn mai Sosialaeth yw y grym yn nwylo'r bobol ar y lefel lleiaf posib, i bob pwrpas, felly mae hynny yn golygu mai'r maes chwarae yw'r cyngor tref/plwyf, yn hytrach na llywodraeth ganolog, onid yw?

Iesu mawr, dwi 'di drysu'n lan rwan. Dwi'n dyfaru son am y blydi gem beldroed 'ma. :winc:

Er hynnu, dwi ddim yn siwr os ydi sosialaeth yn anghenrheidiol yn gorfod bod yn lleol. Dadl arall ydi honno - h.y. wyt ti'n sosialydd lleol, gwladol 'ta rhyngwladol? Di'r petha 'ma byth yn syml, nacdyn? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Iau 06 Tach 2003 1:00 pm

Boris a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:
Chris Castle a ddywedodd:DEMOCRATIAETH - Ewyllys y mwyafrif
SOSIALIAETH - Ewyllys y mwyafrif

Cytuno efo pwynt un, ond mater o farn dwi'n credu ydi pwynt dau.

Y farn arferol ydi bod y Deyrnas Unedig yn ddemocratiaeth o ryw fath neu'i gilydd. Ond hyd y gwela i, o 1945 ymlaen, dydi'r un blaid lywodraethol wedi cael ei hethol efo mwyafrif o'r pleidleisiau, felly sut mae cytuno efo pwynt un? A dyna ydi'r ongl symlaf un.

Dwi'n credu fod llywodraeth Geidwadol 1955 wedi cael mwyafrif y bleidlais.

Ddim cweit. 49.6%, yn ôl y ffynhonnell welais i. Mi oedden nhw wedi cael 49.4% yn 1959 hefyd i bob golwg.

Boris a ddywedodd:Serch hynny, tydi hyn ddim yn newid dilysrwydd dy bwynt, ond mae angen i ti ehangu os am drafodaeth. Dwi'n meddwl mae diffinio democratiaeth oedd Chris, ac cytuno efo'r diffiniad oeddwn i, doess yna ddim trafodaeth ymghylch 'democratiaeth Prydain.

Digon teg. Pan ga i gyfle, felly, oni bai bod rhywun arall isio cychwyn edefyn perthnasol yn y cyfamser.

Boris a ddywedodd:Wedi'r cyfan, mae dy ddadl di yn debyg i ddadl Ivor (i hate all things Welsh) Wynne Jones yn y Daily Post sy'n dal i ddweud na gafwyd y Cynulliad trwy ddulliau democrataidd gan mai dim ond 25.3% o'r boblogaeth ddaru fwrw pleidlais dros gael elfen o ddatganoli yma yng Nghymru. Ai dyna 'di dybwynt Owain :winc:

Dwn i ddim, wir. Ydi'r etholwyr sydd ddim yn gweld diben i bleidleisio yn cyfrif o safbwynt cloriannu dilysrwydd democrataidd? (Dydi hynny ddim yn gwestiwn rhethregol chwaith, erbyn meddwl.)
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 1:05 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Wedi'r cyfan, mae dy ddadl di yn debyg i ddadl Ivor (i hate all things Welsh) Wynne Jones yn y Daily Post sy'n dal i ddweud na gafwyd y Cynulliad trwy ddulliau democrataidd gan mai dim ond 25.3% o'r boblogaeth ddaru fwrw pleidlais dros gael elfen o ddatganoli yma yng Nghymru. Ai dyna 'di dybwynt Owain :winc:

Dwn i ddim, wir. Ydi'r etholwyr sydd ddim yn gweld diben i bleidleisio yn cyfrif o safbwynt cloriannu dilysrwydd democrataidd? (Dydi hynny ddim yn gwestiwn rhethregol chwaith, erbyn meddwl.)

Dwi'n syrthio ar fy mai am 1955. Mae hi'n bymtheg mlynedd ers i mi astudio'r cyfnod - ond fel y dywedais tydi hyn ddim yn newid dilysrwydd dy ddadl.

O fynd yn ôl at y diffiniad o ddemocratiaeth, sef barn y mwyafrif - mae'n amlwg fod yma drafodaeth ddigon difyr - yw'r rhai hynny sydd ddim yn pledleisio yn haeddu llais? Edefyn newydd? Dechra di o :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron