Chris Castle a ddywedodd:
Ond yn hytrach na Reffari, dwi'n gweld rôl delfrydol y llywodraeth fel Cyngor sy'n rhedeg y maes chwarae (amgylchedd) yn piau'r stafell newid dillad a'r system draeniau/trydan/nwy (infrastructure), yn rhedeg yr ysgolion a clybiau ienctid sy'n dysgu'r gêm i'r plant, ac yn cyflogi'r reffaris er mwyn sicrhau gall pawb yn chwarae.
Cytuno. Er fod hyn yn cymlethu'r gymhariaeth braidd. Os ddarlleni di fy neges i eto, dwi'n rhannu cyfrifoldeb llywodraeth yn ddau. Cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus (sef y stwff ti'n gyfeirio ato fo uchod)
a wedyn y busnas o fod yn reffari ar yr economi.
Cardi Bach a ddywedodd:fi o'r farn mai Sosialaeth yw y grym yn nwylo'r bobol ar y lefel lleiaf posib, i bob pwrpas, felly mae hynny yn golygu mai'r maes chwarae yw'r cyngor tref/plwyf, yn hytrach na llywodraeth ganolog, onid yw?
Iesu mawr, dwi 'di drysu'n lan rwan. Dwi'n dyfaru son am y blydi gem beldroed 'ma.
Er hynnu, dwi ddim yn siwr os ydi sosialaeth
yn anghenrheidiol yn gorfod bod yn lleol. Dadl arall ydi honno - h.y. wyt ti'n sosialydd lleol, gwladol 'ta rhyngwladol? Di'r petha 'ma byth yn syml, nacdyn?