Sut mae diffinio 'sosialaeth' a 'chyfalafiaeth'?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sut mae diffinio 'sosialaeth' a 'chyfalafiaeth'?

Postiogan pogon_szczec » Maw 04 Tach 2003 10:16 pm

Sut mae diffinio 'sosialaeth' a 'chyfalafiaeth'?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan nicdafis » Maw 04 Tach 2003 10:34 pm

<a href="http://www.google.com/search?q=what+is+socialism&ie=ISO-8859-1&hl=cy&btnG=Chwilio+Google">sosialaeth</a>

<a href="http://www.google.com/search?q=what+is+capitalism&ie=ISO-8859-1&hl=cy&btnG=Chwilio+Google">cyfalafiaeth</a>

Falch i helpu ;-)

Ond o ddifri, beth yw pwynt yr edefyn 'ma? Wyt ti'n wir yn meddwl y bydd unrhywbeth y gall unrhywun ddweud newid dy feddwl di am hyn? Oes unrhyw bwrpas o gwbl i'r edefyn hwn ond am roi cyfle arall i ti esbonio i ni, y pobl sy ddim yn byw yn Nwyrain Ewrop, Pa Mor Ddrwg Yw Sosialaeth?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan pogon_szczec » Maw 04 Tach 2003 10:57 pm

Mae 'na bwynt.

Cer at yr edefyn 'Gogledd Gorea'.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Newt Gingrich » Maw 04 Tach 2003 11:54 pm

nicdafis a ddywedodd:<a href="http://www.google.com/search?q=what+is+socialism&ie=ISO-8859-1&hl=cy&btnG=Chwilio+Google">sosialaeth</a>

<a href="http://www.google.com/search?q=what+is+capitalism&ie=ISO-8859-1&hl=cy&btnG=Chwilio+Google">cyfalafiaeth</a>

Falch i helpu ;-)

Ond o ddifri, beth yw pwynt yr edefyn 'ma? Wyt ti'n wir yn meddwl y bydd unrhywbeth y gall unrhywun ddweud newid dy feddwl di am hyn? Oes unrhyw bwrpas o gwbl i'r edefyn hwn ond am roi cyfle arall i ti esbonio i ni, y pobl sy ddim yn byw yn Nwyrain Ewrop, Pa Mor Ddrwg Yw Sosialaeth?


Onid propoganda eraill fyddai hyn Nic? Onid gwell fyddai cael trafodaeth o fewn maes e fyddai o bosib yn adeiladol?
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Newt Gingrich » Mer 05 Tach 2003 12:25 am

Dwi'n credu yn rhyddid yr unigolyn. Dwi o'r farn nad yw sosialaeth yn cynnig hyn. Pedwar ddyfyniad fel sail i'r drafodaeth;

"Democracy extends the sphere of individual freedom, socialism restricts it. Democracy attaches all possible value to each man; socialism makes each man a mere agent, a mere number. Democracy and socialism have nothing in common but one word:equality. But notice the difference: while democracy seeks equality in liberty, socialism seeks equality in restraint and servitude" de Tocqueville

"Socialists believe in two things which are absolouteley different and perhaps even contradictory: freedom and organisation" Elie Halevey

"Hitlerism proclaims itself as both true democracy and true socialism, and the terrible truth is that there is a grain of truth for such claims. But one fact stands out with perfect clarity in all the fog: Hitler has never claimed to represent true liberalism. Liberalism has the distinction of being the doctrine most hated by Hitler" Eduard Heimann

"...by the time Hitler came to power, liberalism was to all extents and purposes dead in Germany. And it was socialism that had killed it" Hayek


[/b]
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Chris Castle » Mer 05 Tach 2003 9:57 am

"Socialists believe in two things which are absolouteley different and perhaps even contradictory: freedom and organisation" Elie Halevey


O blaid Anarci wyt ti te :winc:

Dwi'n credu yn rhyddid yr unigolyn.


Ond problem gyda chyfaliafiaeth yw gosod hawliau unigolyn pwerus o achos ei grym economig yn uwch na hawliau unigolion gwan. Mae hynny'n dileu Democratiaeth.

Dyw sosialiaeth ddim yn cyfystyr a Chomiwnyddiaeth. Mae lle i economig y farchnad o fewn Sosialiaeth.

DEMOCRATIAETH - Ewyllys y mwyafrif
SOSIALIAETH - Ewyllys y mwyafrif
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Garnet Bowen » Mer 05 Tach 2003 10:39 am

Y broblem gyda cheisio diffinio 'Sosialaeth' yw ei fod yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae 'na ystod eang o bobl - o Stalin i Tony Blair - wedi hawlio eu bod nhw'n 'sosialwyr' ar un adeg neu gilydd.

Wyt ti'n diffinio llywodraeth sosialaidd fel un sydd yn prynnu i fewn i'r economi, ac yn gwladoli, 'ta wyt ti'n diffinio llywodraeth sosialaidd fel un sy'n ceisio gosod cyfyngiadau ar economi? Drwy ddilyn y diffiniad cyntaf, ti'n codi'r cwestiwn "Beth ydi'r gwahaniaeth rhwng sosialydd a chomiwnydd 'ta?". Drwy ddilyn yr ail ddiffiniad, ti'n codi'r cwestiwn "Be di'r gwahaniaeth rhwng sosialydd a rhyddfrydwr 'ta?".

Dwi yn bersonol yn tueddu tuag at yr ail ddiffiniad - Sosialaeth ddemocrataidd/democratiaieth gymdeithasol. Fy safbwynt i yw fod gan y wladwriaeth gyfrifoldeb i warchod rai agweddau o fywyd ei thrigolion - iechyd, addysg, trafnidiaeth etc. - a fod rhaid gwneud hyn drwy godi trethi, a rhedeg y gwasanaethau yma yn uniongyrchol. Ond hefyd, mae gan wladwriaeth gyfrifoldeb i beidio ac ymyryd ym mywyd bob dydd ei thrigolion, ac mae hyn yn cynnwys eu bywyd economaidd.

Rol y llywodraeth yn yr economi ydi bod yn reffari. Mae'r llywodraeth yn dewis y rheolau, ac yn eu gweithredu, ond ddim yn chwarae y gem, nac yn cefnogi yr un o'r timau. Gellid dweud fod yr agwedd yma yn wir am bob llywodraeth, ond y gwahaniaeth ydi fod sosialaeth ddemocrataidd yn llawer mwy caeth wrth osod y rheolau. Mi wnaiff reffari ceidwadol/lasseiz faire adael i'r chwaraewyr golbio eu gilydd yn racs er mwyn sgorio gol. Mae'r reffari sosialaidd yno i wneud yn siwr bod pawb yn cael chwarae teg o dan y rheolau.

Barn bersonol ydi hon. Mae'r linell rhwng sosialaeth ddemocrataidd/democratiaith gymdeithasol yn un anelwig iawn, a tydw i ddim wastad yn siwr ar ba ochr dwi'n sefyll fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chris Castle » Iau 06 Tach 2003 10:56 am

Rol y llywodraeth yn yr economi ydi bod yn reffari. Mae'r llywodraeth yn dewis y rheolau, ac yn eu gweithredu, ond ddim yn chwarae y gem, nac yn cefnogi yr un o'r timau. Gellid dweud fod yr agwedd yma yn wir am bob llywodraeth, ond y gwahaniaeth ydi fod sosialaeth ddemocrataidd yn llawer mwy caeth wrth osod y rheolau. Mi wnaiff reffari ceidwadol/lasseiz faire adael i'r chwaraewyr golbio eu gilydd yn racs er mwyn sgorio gol. Mae'r reffari sosialaidd yno i wneud yn siwr bod pawb yn cael chwarae teg o dan y rheolau.

Barn bersonol ydi hon. Mae'r linell rhwng sosialaeth ddemocrataidd/democratiaith gymdeithasol yn un anelwig iawn


Dwi ddim yn gweld gwahaniaeht rhwng
Sosialaeth democrataidd/democratiaieth gymdeithasol.

Ond yn hytrach na Reffari, dwi'n gweld rôl delfrydol y llywodraeth fel Cyngor sy'n rhedeg y maes chwarae (amgylchedd) yn piau'r stafell newid dillad a'r system draeniau/trydan/nwy (infrastructure), yn rhedeg yr ysgolion a clybiau ienctid sy'n dysgu'r gêm i'r plant, ac yn cyflogi'r reffaris er mwyn sicrhau gall pawb yn chwarae.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Cardi Bach » Iau 06 Tach 2003 11:03 am

Chris Castle a ddywedodd:
Rol y llywodraeth yn yr economi ydi bod yn reffari. Mae'r llywodraeth yn dewis y rheolau, ac yn eu gweithredu, ond ddim yn chwarae y gem, nac yn cefnogi yr un o'r timau. Gellid dweud fod yr agwedd yma yn wir am bob llywodraeth, ond y gwahaniaeth ydi fod sosialaeth ddemocrataidd yn llawer mwy caeth wrth osod y rheolau. Mi wnaiff reffari ceidwadol/lasseiz faire adael i'r chwaraewyr golbio eu gilydd yn racs er mwyn sgorio gol. Mae'r reffari sosialaidd yno i wneud yn siwr bod pawb yn cael chwarae teg o dan y rheolau.

Barn bersonol ydi hon. Mae'r linell rhwng sosialaeth ddemocrataidd/democratiaith gymdeithasol yn un anelwig iawn


Dwi ddim yn gweld gwahaniaeht rhwng
Sosialaeth democrataidd/democratiaieth gymdeithasol.

Ond yn hytrach na Reffari, dwi'n gweld rôl delfrydol y llywodraeth fel Cyngor sy'n rhedeg y maes chwarae (amgylchedd) yn piau'r stafell newid dillad a'r system draeniau/trydan/nwy (infrastructure), yn rhedeg yr ysgolion a clybiau ienctid sy'n dysgu'r gêm i'r plant, ac yn cyflogi'r reffaris er mwyn sicrhau gall pawb yn chwarae.


Sori i fod yn lletchwith, ond er mwyn hyn ma'n rhaid diffinio beth yw y maes chwarae. Ar ba lefel ma hyn yn digwydd? Achos fi o'r farn mai Sosialaeth yw y grym yn nwylo'r bobol ar y lefel lleiaf posib, i bob pwrpas, felly mae hynny yn golygu mai'r maes chwarae yw'r cyngor tref/plwyf, yn hytrach na llywodraeth ganolog, onid yw?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 11:59 am

Chris Castle a ddywedodd:DEMOCRATIAETH - Ewyllys y mwyafrif
SOSIALIAETH - Ewyllys y mwyafrif


Cytuno efo pwynt un, ond mater o farn dwi'n credu ydi pwynt dau.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron