Cymedrolwr: Chwadan
nicdafis a ddywedodd:<a href="http://www.google.com/search?q=what+is+socialism&ie=ISO-8859-1&hl=cy&btnG=Chwilio+Google">sosialaeth</a>
<a href="http://www.google.com/search?q=what+is+capitalism&ie=ISO-8859-1&hl=cy&btnG=Chwilio+Google">cyfalafiaeth</a>
Falch i helpu
Ond o ddifri, beth yw pwynt yr edefyn 'ma? Wyt ti'n wir yn meddwl y bydd unrhywbeth y gall unrhywun ddweud newid dy feddwl di am hyn? Oes unrhyw bwrpas o gwbl i'r edefyn hwn ond am roi cyfle arall i ti esbonio i ni, y pobl sy ddim yn byw yn Nwyrain Ewrop, Pa Mor Ddrwg Yw Sosialaeth?
"Socialists believe in two things which are absolouteley different and perhaps even contradictory: freedom and organisation" Elie Halevey
Dwi'n credu yn rhyddid yr unigolyn.
Rol y llywodraeth yn yr economi ydi bod yn reffari. Mae'r llywodraeth yn dewis y rheolau, ac yn eu gweithredu, ond ddim yn chwarae y gem, nac yn cefnogi yr un o'r timau. Gellid dweud fod yr agwedd yma yn wir am bob llywodraeth, ond y gwahaniaeth ydi fod sosialaeth ddemocrataidd yn llawer mwy caeth wrth osod y rheolau. Mi wnaiff reffari ceidwadol/lasseiz faire adael i'r chwaraewyr golbio eu gilydd yn racs er mwyn sgorio gol. Mae'r reffari sosialaidd yno i wneud yn siwr bod pawb yn cael chwarae teg o dan y rheolau.
Barn bersonol ydi hon. Mae'r linell rhwng sosialaeth ddemocrataidd/democratiaith gymdeithasol yn un anelwig iawn
Chris Castle a ddywedodd:Rol y llywodraeth yn yr economi ydi bod yn reffari. Mae'r llywodraeth yn dewis y rheolau, ac yn eu gweithredu, ond ddim yn chwarae y gem, nac yn cefnogi yr un o'r timau. Gellid dweud fod yr agwedd yma yn wir am bob llywodraeth, ond y gwahaniaeth ydi fod sosialaeth ddemocrataidd yn llawer mwy caeth wrth osod y rheolau. Mi wnaiff reffari ceidwadol/lasseiz faire adael i'r chwaraewyr golbio eu gilydd yn racs er mwyn sgorio gol. Mae'r reffari sosialaidd yno i wneud yn siwr bod pawb yn cael chwarae teg o dan y rheolau.
Barn bersonol ydi hon. Mae'r linell rhwng sosialaeth ddemocrataidd/democratiaith gymdeithasol yn un anelwig iawn
Dwi ddim yn gweld gwahaniaeht rhwng
Sosialaeth democrataidd/democratiaieth gymdeithasol.
Ond yn hytrach na Reffari, dwi'n gweld rôl delfrydol y llywodraeth fel Cyngor sy'n rhedeg y maes chwarae (amgylchedd) yn piau'r stafell newid dillad a'r system draeniau/trydan/nwy (infrastructure), yn rhedeg yr ysgolion a clybiau ienctid sy'n dysgu'r gêm i'r plant, ac yn cyflogi'r reffaris er mwyn sicrhau gall pawb yn chwarae.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai