Rant, wedi ei siapio fyny yn sobor... Os oes unrhy un yn gwybod y term cymraeg am globalisation plis dywedwch wrtha i.
Un o’r problemau cyntaf pam mae’n dod I globalisation yw beth yn union mae’r term yn ei feddwl? Mae’n aml yn cael ei ddefnyddio fel buzzword, mae ganddo restr hir o definitions gwahanol. Mi allai gael ei ddiffinio fel internationalisation ac liberalization wrth I gydadwaith a dibyniaeth dyfu rhwng gwledydd y byd, neu fel universalization. Er fod yna anghytundeb os dyma globalisation yn dechrau cyn modernyddiaeth, neu yn ganlyniad ohono, does dim ond posib dadlau mai yn ystod y ganrif dwytha, mae’r boundaries rhwng gwledydd a diwylliannau wedi tyfuyn llai a llai. Mae ffyrdd o drafeilio fel ceir a awyrennau wedi torri I lawr ar amser trafeilio i extent bod teuluoedd nad oedd erioed or blaen wedi trafeilio allan o Ynys Mon rwan wedi trafeilio hanner y ddear! Mae’r rhyngrwyd wedi torri lawr hyd yn oed yn bellach (erioed wedi siarad a person o wlad Pwyl or blaen, er enfraifft!), ac er ei fod o dal ddim yn cael ei weld fel dull o ‘mass communication’ (beth bynnag ydi hwnnw yn y gymraeg)am nad yw tri chwarter y byd dal ddim yn gallu ei ddefnyddio, mae’r ffaith nad yw neb yn gwybod pwy wyt ti (heblaw amdan I ), a’I gyflymder, yn meddwl bod pobl o ddiwyllianau gwahanol, crefyddau gwahanol, ochrau gwahanol o’r political spectrum yn gallu dod at ei gilydd a chymysgu yn agored. Dwi’n deall bod hyn yn ffordd bositif iawn o edrych ar globalisation, sy’n gweld pobl y byd fel criw mawr o ffrindiau, nun yn hygio clown a fel arall (Global Villadge, chwedl McLuhan- er nad dim dyna oedd o yn ei ffycin feddwl!). Er hyn, mae posib dadlau mai effaith Globalisation oedd y gwrthwyneb i hyn: “Often… globalisation is associated with a process of homogenisation, as all the world becomes western, modern and, more particularly, American.” I lot o bobl heddiw felly, mae o’n derm negatif iawn, yn cario connotations o diwylliannau underdog(-lyd?) yn cael ei boddi dan farn dall y gorllewin bod gweddill y byd yn anghywir a mai ei job nhw ydi I’w setio fo’n syth. Mae y rhan fwyaf o bobl yn gweld globalisation yn y golau yma, a mae termau eraill, fel liberalization, wedi mynd yn gyflym redundant. I lawer, mae globalisation yn meddwl diwedd hen ddiwyllianau a dechrau y McByd; ac i neb llai na ni pobl Cymru.
Y ddadl allweddol am globalisation ydi faint yn union mae o’n helpu ni, pam mor deg ydi o, a pa ffyrdd erill sydd yna. Mae pobl sy’n defendio cyfalafiaeth ‘globalised’ neu ‘free market’ yn dweud ei fod o’n system deg mae pob un gwlad yn gallu enill ohona fo, tra mae’r heini sy’n erbyn cyfalafiaeth yn ei weld o’n benifitio’r gwledydd mawr industrial, fel (wrth gwrs) America, at expense y gwledydd tlawd. Mae’r chwareuwyr allweddol yn globalisation yn cynnwys y World Trade Organisation, World Bank a International Monetary Fund. O P.O.V. y cwmniau yma, mae globalisation yn broses naturiol, direct result o’r ‘developing world’, yn lle exploitation cyfalafiaetheithol (hmm.. mae cymraeg fi’n wael, tydi?). Yn siarad ar fwrdd trafod roedd James Wolfensohn, Arlywydd y World Bank, yn dweud: “This is something which is happening as a result of technology, it's happening as a result of interest and the fact that with six billion people on the planet now our markets are expanding, we're going to have another two billion people in the next 25 years - there is no way that you're not going to have a more interconnected world.” Er hyn, mi all un ddadlau bod globalisation wedi cael ei ddechrau fel concentrated effort gan y Gorllewin mawr i effeithio gwledydd tlawd, yn lle ‘natural process’. Mae gan y syniad o’r gorllewin yn effeithio gwledydd tlodach ei roots yn y Rhyfel Oer. Mae’r modernisation theory yn agwedd cynar, ac mewn rhai ffyrdd allan o det, o edrych ar globalisation. Wrth rhoi y theory yma mewn I bractice mi fysai’r gorllewin, yn berffaith agored, yn ceisio moderneiddio gweddill y byd I geisio ei codi nhw I’w 'standards' nhw. Mae werth poeni mai pwrpas hyn oedd I motivatio, os nad INSPIRIO (fel darn o gerddoriaeth) y gwledydd hyn tuag at ffordd gwell o fyw (dim gwisgo’r hetiau od ‘na) a promotio ‘social innovations’. Wrth gwrs mae rhaid advantages I hyn: mi fydd o’n promotio Democratiaeth ac yn dod a technoleg fodern (mwy o bobl ar Maes-E! whoop) I wledydd sydd wir angen fforwm trafod yn ei mamiaith. Ond, I fod yn berffaith onest, roedd y theory ym wedi ei siapio gan ffordd Rhyfel Oer o feddwl, ac yn cachu ar ben bron pob diwylliant yn y byd (McCymru plis).
Un o’r brif ddadleuon yn erbyn globalisation yw ei fod o’n tasgu diwylliant y Gorllewin mewn ffordd sydd yn brifo diwyllianau eraill, proses sydd yn cael ei alw, mewn seaseneg o leia, yn imperialism. Mae America, yn enwedig,wedi cael ei aciwsio o Imperialism Diwyllianol. Mae Imperialism diwyllianol wedi cael ei ddiffinio fel: “ [a] sum of the processes by which a society is brought into the modern world system and how its dominating stratum is attracted, pressured, forced and sometimes bribed into shaping social institutions to correspond to, or even promote, the values and structures of the dominating centre of the system.” Mae evidence o imperialism diwyllianol yn gallu cael ei weld yn bob man, yn enwedig yn effaith y media ar y rhannau sy’n datblygu o’r byd. Mae cwmniau Rupert Murdoch’s yn rheoli y newyddion ar draws y byd, ac drwyr amser yn expandio, yn integratio cwmniau newydd mewn I’r fold. “News agencies themselves have been major players in processes of globalisation while they are also of increasing importance in underpinning the globalisation activities of other players on world markets.” Wrth I gwmniau o’r gwledydd ‘core’ controllio llif gwybodaeth mewn I wledydd ‘periphery’, mae’n debygol iawn bod y diwylliant mwy pwerus yn mynd I smotherio diwylliant y wlad.Ond, wrth gwrs, does dim posib beio imperialaith diwyllianaol ar y media yn unig. “Today, most governments in advanced countries operate radio and television services of their own. These are the external services, the official voices of national policies designed for overseas audiences, now firmly entrenched as a responsibility of the state in the information age.” Gyda’r llywodraeth ei hunain yn cymeryd rhan mewn imperialism diwyllianol, mae’n pwyntio at ymdrech glir i foderneiddio gwledydd eraill yn lle ruse bach cyfalafiaeth I’w conio allan o’I pres I gyd. “Researchers have recognised this new flow of information as ‘political persuasive communication, propaganda’ and more recently ‘public diplomacy’” Yn amlwg dyw imperialism diwyllianol ddim yn beneficial iawn I’r public sphere. Dyw pobol y gwledydd ‘periphery’ ddim yn mynd I gael access I’r ‘free market place of ideas’ os yw’r farchnad hwnnw yn cael ei ddomeneiddio gan ideology y gwledydd ‘core’, sy’n gweithio yn ei doddordeb ei hunain yn lle diddordeb pobl y wlad. Hefyd, gan mai gwledydd mawr pwerus sy’n cymeryd rhan mawr mewn spreadio ei dominant ideology ar hyd a lled y byd yn lle governments y gwledydd penodol rheini, mae pwrpas symudiadau o’r fath yn lot mwy tebygol I fod o blaid y gwledydd pwerus na’r pobl yn y gwledydd sydd ddim yn bwysig. Er hyn, mai posib criticisio y theory o imperialaith diwyllianol.
Mae nifer o ffactorau yn bodoli sy’n awgrymu bod imperialaith diwyllianol ddim yn bydoli. Mae imperialaith diwyllianol wedi bydoli am canoed o flynyddoedd, yn enwedig dan ni’r Prydeinwyr. Mae llawer o bobl yn edrych ar y gorffenol drwy sbectol gam, a golwg cymylog o’r gorffenol. Mae pawb yn cymeryd yn ganiataolo bod diwylliant pob gwlad wedi bod yn gryf iawn cyn I’r Americanisation ddechrau, ac hefyd bod diwylliant y gwledydd bach yn fwy pwysig na diwylliant y gwledydd mawr. “There is an often patronizing assumption that what is at risk is the ‘authentic’ and organic culture of the developing world under the onslaught of something synthetic and inauthentic coming from the West.” Mae’r ddadl bod diwylliant y gorllewin yn trio smotherio diwylliant gweddill y byd hefyd yn ignorio’r ffaith bod cwmniau y gorllewin yn aml yn newid ei products I ffitio diwylliant y wlad mae nhw’n trio ei ‘thori’: “On the sales end, global marketers often have to adjust article design and advertising for a transworld product in ways that appeal to global sensibilities. For example, McDonald’s in India has a mutton-based ‘Maharaja Mac’ on its menu in place of the otherwise ubiquitous beef burger.” Presumption arall gwirion yw bod pobl un diwylliant am dderbyn y diwylliant arall heb ddadl, a bydd yna ddim resistance iddo o gwbl (edrychwch ar Maes-E, er engraifft! Faint o ffyrdd o flaen McDonalds rhaid I Rhys Llwyd fynd I orwedd I lawr arnyn nhw?). Mae hefyd werth cofio ei fod hi’n hawdd pwyntio bys yn nghyfeiriad y gorllewin a’I feio am bob peth sy’n bod yn ein gwlad ni, ac yn gallu cael ei ddefnyddio fel ffordd o justifio media oppression mewn rhai gwledydd.
Os mae’r byd datblygiedig yn syfferio o barrage diwylliant gorllewinol, ydi globalisation yn cael effaith debyg ar yr economi?Mae pobl wedi colli danedd yn y ddadl yma. Mae globalisation wedi cael ei lincio I cyfalafiaeth yn mynd yn fwy wide spread nag erioed or blaen; ryw fath o ‘hypercyfalafiaeth’!. Mae economic y farchnad hen wedi cael ei daflu o’r neilltu I wneud lle I system o gyfalafiaeth lle mae pres yn ffeindio ei ffordd mewn I dwylo nifer bach ac yn anwybyddu y nifer mawr. “ Some 70 percent of world income is produced and consumed by 15 percent of the world’s population. In the 41 least developed countries, average per capita income is well under $300.” Mae ychydig iawn o fanteision I system o’r fath. Mae dod a jobs mewn I wledydd lle does dim yn garantio survival heblaw am faint o law sy’n mynd I ddisgyn yn rhoi sicrwydd o ryw fath I’r bobl yna. Hefyd, dyw hi ddim yn deg beio problemau gwledydd tlawd I gyd ar y Gorllewin ‘barus’. Mae nhw’n blydi corrupt hanner yr amser. Sydd yn dod a ni I’r cwestiwn: gyda internationalisation o’r fath, faint yn union o bwer mae’r wlad yn ei ddal rwan, wir? Mae’n ddadleuol bod globalisation heb wneud gwledydd yn irrelevant, ond bod linc cryfach rhwng un gwlad a’r llall yn diffinio gwledydd mwy ng all ffin erioed ei wneud. Mi ddywedodd yr South African Finance Minister Trevor Manuel: “That provides a context for Ethiopia because I think, sadly, what some people would be saying is you've got droughts or famine on the one hand and on the other hand Ethiopia at war with Eritrea. And that kind of context I think then damages the prospect because we are also, sadly, dealing in a world where official development assistance has dwindled to a trickle in many, many countries.” A PS, dim yn charity y mae'r ateb.
Wel, dyna fy 'take' i ar globalisation ar y funud, ar ol darllen ychydig o lyfrau ar y mater. A gobeithio wneith rywun ddadlau a dangos fy mod i'n anghywir, am ei fod o'n anhebygol iawn fy mod i wedi dehongli sefyllfa anodd iawn ei dallt ar y golwg gyntaf.
Dyma lle dw i wedi cael fy nadeleuon o, os oes unrhyw un a diddordeb:
Scholte, J. (2000) Globalisation a Critical Introduction. New York: Palgrave.
Boyd Barrett, O. et al. (1998) The Globalisation of News. London: SAGE Publications Ltd.
http://www.worldsocialism.org/globintr.htm
http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/714972.stm
Schiller, H. (1976) Communication and Cultural Domination. New York: International Arts and Science Press. Quoted in Golding, 1997.
Boyd Barrett, O. et al. (1998) The Globalisation of News. London: SAGE Publications Ltd.
Taylor, P. (1997) Global Communications, International Affairs and the Media since 1945. London: Rouledge.
Mowlana, H. (1997) Global Information and World Communication. Second edition. London: SAGE Publications Ltd.
Golding, P. et al, (1997) Beyond Cultural Imperialism. London: SAGE Publications Ltd.
(http://www.globalpolicy.org/globaliz/define/kism.htm)
Ihonvbere, J.O. (1992) ‘The Third World and the New World Order in the 1990s’, Futures, December: 987- 1002. Quoted in Golding, 1997.
http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/714972.stm