Newyddion

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Sul 16 Tach 2003 9:02 pm

Yn bersonol dwi'n mwynhau darllen y Sun a dwi ddim yn deall beth sydd o'i le ar hyn. Dwi'n hoffi darllen am scandals a mae o'n fwy hamddenol na darllen y broadsheets. Dwi'n dueddol o gytuno hefo beth mae'r Sun yn ei ddweud ac mae crynodeb digon da o newyddion ynddo i fi. Dyddiau eraill well gen i ddarllen papurau mwy trwchus, dibynnu faint o amser (ac amynedd) sydd gen i.

Dwi'n dueddol o gael y mwyafrif o fy newyddion o'r we dyddie yma beth bynnag.

Ydy o dal yn wir fod Siop yr Undeb Prifysgol Caerdydd yn gwerthod gwethu'r Sun yno? Ddim yn coelio mewn hawl yr unigolyn i ddewis felly!
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Sul 16 Tach 2003 9:04 pm

Leusa a ddywedodd:Na, dwi'n anghytuno efo hyna. Ceith bawb sydd isho gwbod am sex scandals, selebs a chwaraeon brynu'r sun neu bethbynag, wedyn bydd pawb sydd wir yn poeni am wir faterion cyfoes y byd yn cael gwylio'r newyddion cenedlaethol.


Ti'n swnio braidd yn snob yn gwneud y datganiad yna i fod yn onest. Fe wn am lawer o bobl sydd wedi stopio gwylio'r newyddion am eu bod yn ffeindio fo yn rhy 'depressing' ar ol dod adref o'u gwaith. O leiaf os oes straeon mwy difyr neu chwaraeon mae hyn yn gallu cydbwyso'r straeon trwm a'i wneud yn rywbeth i bobl eu wylio.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Leusa » Llun 17 Tach 2003 10:01 am

Aye, snob ydw i sdi. Ond a'i pwrpas y newyddion ydi i ddiddori pobol ac i fod yn rhywbeth i'w 'wylio'? Neu a'i pwrpas y newyddion ydi i ddeud y gwir wrth bawb am faterion y byd wrth bobol sydd isho gwbod?!
Ellith y pobol sydd yn cal i'w dipressio wrth wylio'r newyddion wasdad unai peidio sbiad arno fo, neu switsho yn sydyn i rwbath doniol yn syth ar ol i'w wylio fo mashwr.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Macsen » Llun 17 Tach 2003 11:53 am

Leusa a ddywedodd:Na, dwi'n anghytuno efo hyna. Ceith bawb sydd isho gwbod am sex scandals, selebs a chwaraeon brynu'r sun neu bethbynag, wedyn bydd pawb sydd wir yn poeni am wir faterion cyfoes y byd yn cael gwylio'r newyddion cenedlaethol.


Cytunaf, ar y risk o swnio fel snob. Mae'n ffaith depressing iawn mai y Sun yw papur newydd sy'n gwerthu gorau ym Mhrydain, gan ei fod o mor isel ar newyddion a mor llawn o storis am be gafodd Mick Jagger i frecwast.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cwlcymro » Llun 17 Tach 2003 12:04 pm

Ydy o dal yn wir fod Siop yr Undeb Prifysgol Caerdydd yn gwerthod gwethu'r Sun yno? Ddim yn coelio mewn hawl yr unigolyn i ddewis felly!

Rioed di clywed am hunna, dwi'n eitha siwr fod y Sun yna bob dydd, mi gymerai lwc yn munud i chdi li! Ond un peth da ma nhw'n neud yna (a dwi'n cymeryd fod hyn yn wir am siopa Undeba y wlad drosodd) ydi cynnig y Guardian a'r Independant am ugian ceiniog yr un. Ma unrhywbeth sy'n ennyn diddordeb mewn darllen y papura go-wir yn syniad gwych i fi.

Ma RET yn iawn ar un peth ddo Leus. Er bo'r newyddion yna i'n addysgu ag i roi gwybodaeth i ni, ma'n rhaid iddy nhw ddarlledu be ma pobl eisiau ei weld. Fel arall yr unig bobl fysa'n gwylio'r newyddion fysa'r bobl sy'n darllan y broad-sheets ac gyda diddordeb mawr mewn gwir newyddion.
Dwi'n shwr fo fi di darllan yn rwla fod y rhan helaeth o'r wlad yn cal pob newyddion o'r teledu, heb ddarllen unrhyw bapur (bo hwnnw yn y Sun neu'r Times). Os ydy'r rheini yn cal pwt o wir broblemau'r byd rhwng 'sgandal' diweddara y teulu pathetic, neu gwallt rhyfeddol y chwareuwr pel-droed na yna ma hunna'n beth da tydi.

(A RET, ti'n annog pobl i ddarllan y Guardian? Doni byth yn meddwl swn i'n gweld y dydd :winc: :P )
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Leusa » Llun 17 Tach 2003 2:07 pm

ok, diolch am eich atebion chi gyd.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan RET79 » Llun 17 Tach 2003 6:40 pm

Cwlcymro a ddywedodd:(A RET, ti'n annog pobl i ddarllan y Guardian? Doni byth yn meddwl swn i'n gweld y dydd :winc: :P )


???

Darllen y Sun lot mwy o hwyl i chdi. Ond mae'r daily sport yn well byth ;-)
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Llun 17 Tach 2003 7:00 pm

RET a ddywedodd:Ond mae'r daily sport yn well byth


Good God, dyna'r drwg yn y caws. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 21 Tach 2003 4:58 pm

Pam bo chdi di penderfynnu cael gwared o'r ddraig goch, a rhoid llun Bryn Terfel yn ei lle hi, Ifan?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cardi Bach » Gwe 21 Tach 2003 5:10 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Pam bo chdi di penderfynnu cael gwared o'r ddraig goch, a rhoid llun Bryn Terfel yn eu lle hi, Ifan?


:lol:

Bryn 'Aragorn' Terfel!!!!!!!!!!!!!!! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai